Stereophonics

Oddi ar Wicipedia
Stereophonics
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Label recordioMapleMusic Recordings Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1992 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1992 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth roc caled, roc amgen, ôl-Britpop Edit this on Wikidata
Yn cynnwysStuart Cable Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.stereophonics.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Band roc Cymreig a ffurfiwyd ym 1992 yng Nghwmaman, Cymru yw'r Stereophonics. Ar hyn o bryd, mae aelodau'r band yn cynnwys y prif leisydd a'r gitarydd Kelly Jones, chwaraewr y gitâr bâs a'r lleisydd cefndirol Richard Jones, y drymiwr Jamie Morrsion, gitarydd a lleisydd cefndirol Adam Zindani a'r aelod teithiol Tony Kirkham (allweddellau). Yn wreiddiol roedd y grŵp yn cynnwys y drymiwr Stuart Cable hefyd. Mae'r Stereophonics wedi rhyddhau wyth albwm stiwdio, gyda phump ohonynt yn cyrraedd brig Siart Albymau'r DU. Rhyddhawyd ei seithfed albwm, Keep Calm and Carry On ym mis Tachwedd 2009 ond ni gyrhaeddodd y Deg Uchaf. Rhyddhawyd albwm lwyddiannus o'u caneuon enwocaf ym mis Tachwedd 2008 – Decade in the Sun a gyrhaeddodd rif 2 ar siart y Deyrnas Unedig. Mae'r band yn rhan o sîn gerddorol Caerdydd.

Aelodau'r band[golygu | golygu cod]

Aelodau presennol
Kelly Jones yn perfformio set, yn ystod cyngerdd Cymorth Tsunami yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2005
Aelodau blaenorol
Cerddorion ar daith
  • Tony Kirkhamallweddellau (1992–presennol)
  • Scott James – gitâr (2001–2004)
  • Aileen McLaughlin – lleisydd cefndirol (2002–2003)
  • Michale Johnson Pailing III – lleisydd cefndirol (2002–2003)
  • Steve Gorman – drymiau, offerynnau traw (2003–2004) (aelod llawn amser o'r The Black Crowes)

Disgograffiaeth[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]