Eirlys Parri

Oddi ar Wicipedia
Eirlys Parri
GanwydEirlys Parry Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcanwr, athro Edit this on Wikidata

Athrawes, cantores ac actores yw Eirlys Parri (adnabyddir hefyd fel Eirlys Eckley)

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Magwyd Eirlys Parry yn Sŵn y Môr, Morfa Nefyn, yn ferch i John a Mary Parry. Mynychodd Ysgol Gynradd Edern ac yna Ysgol Ramadeg Pwllheli. Roedd yn mwynhau cerddoriaeth a chanu a chafodd gyfle i actio yn nramâu Wil Sam gyda'i frawd Elis Gwyn.

Aeth ymlaen i Goleg y Drindod Caerfyrddin i astudio Cymraeg a Drama gyda phobl fel Norah Isaac a Carwyn James. Aeth ar ymarfer dysgu yn Llandudoch, Llanelli ac Ysgol y Dderwen Caerfyrddin.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gyfansoddi caneuon a recordiodd y gân "Pedwar Gwynt" ym mharlwr Harri Parri a Gareth Maelor ym Mhorthmadog. Ymddangosodd ar y rhaglen deledu Disc a Dawn a bu'n teithio Cymru i ganu yng nghyngherddau'r "Pinaclau Pop". Cychwynodd ei swydd gyntaf fel athrawes yn Ysgol Gymraeg Heol Gaer, Fflint cyn priodi a chael plant.

Parhaodd i ganu mewn cyngherddau dros Gymru a cafodd y cyfle i actio Mrs Noa gyda Theatr Cymru a bu'n rhan o gyfres adloniant teledu Codi Pais. Symudodd wedyn i Gaerdydd ac aeth yn ôl i'r coleg i wneud cwrs dau ddiwrnod yr wythnos ar Gysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata. Bu'n gweithio am gyfnod yn Adran Cysylltiadau Cyhoeddus S4C wedyn yn trefnu digwyddiadau'r sianel, yng Nghymru ac ar y Cyfandir. Canodd gân fuddugol Cân i Gymru yn 1986. Cafodd gyfres ei hun Eirlys ar S4C, y gyfres gyntaf yn 1988 a'r ail yn 1989.

Erbyn i'w phlant fynd i'r ysgol uwchradd, aeth yn ôl i fyd addysg gan ddysgu yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, ac yna Ysgol Castellau, y Beddau. Yna aeth i weithio fel Athrawes Ymgynghorol i Awdurdod Addysg Caerdydd. Roedd wedi ymddeol erbyn 2011.[1]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd ei gŵr Geraint Eckley yn 1971 gan symud i bentref gwledig y Parc ger y Bala, lle ganwyd eu merched, Lois ac Esther.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Eirlys Parry (EP, Recordiau Tŷ Ar Y Graig, 1970)
"Aderyn Mawr"
"Pedwar Gwynt"
"Cân y bydoedd"
"Yn Y Gwynt Mae'r Beddau'n Oeri"
  • Blodau'r Grug (Eirlys Parry a Hywel Evans) (EP, Recordiau Sain, SAIN 12, 1970)
"Y Ferch A'r Mowr"
"Ynys"
"Blodau'r Grug"
"Porthdinllaen"
  • Ti Yw Fy Nghân (EP, Recordiau Sain, SAIN 48, 1974)
"Ti Yw Fy Nghân"
"Stafell Cynddylan"
"Dyddiau Blin"
"Cysga Di"
  • Cân Y Gobaith (LP, Gwerin, SYWM 212, 1979)
"Cân Y Gobaith"
"Rwyf D'Eisiau"
"Huna Blentyn"
"Pam Yr Est"
"Caraf Di"
"Tyrd Fy Nghariad"
"Roedd Yn Y Wlad Honno"
"Atgofion"
"Can Magdalen"
"Hedfan"
  • Cannwyll Yn Olau (LP, Recordiau Sain, 1282M, 1983)
"Cannwyll Yn Olau"
"O Pam Yr Est"
"Paid Mynd"
"Torrwr Calonnau"
"Tuag Adre"
"Wylan Wen"
"Pedwar Gwynt"
"Ann Lewis"
"Cerdded Ynghyd"
"Gwin Yn Troi Yn Fy Mhen"
"Dal Fi'n Agos"
"Nos Da"
  • Yfory (LP, Recordiau Sain, 1349M, 1985)
"Yfory"
"Dadrith"
"Hydref Yn Ei Ôl"
"Cwestiynau"
"Teresa"
"Cerdded Gwynt"
"Dwi'n Nabod O'n Dda"
"Mae'r Garwriaeth Drosodd"
"Ebol Asyn"
"Llithro Mae O Nghafael"
"Dydd Fy Rhyddid"
"Canol Ar Dân"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Eirlys Parry. BBC Cymru (Medi 2006). Adalwyd ar 23 Hydref 2018.