Codi Pais
Gwedd
Codi Pais | |
---|---|
Genre | Adloniant/comedi |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Nifer cyfresi | 2 |
Nifer penodau | 11 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 30 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
HTV Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 576i (4:3 SDTV) |
Rhediad cyntaf yn | 6 Ebrill 1987 – 17 Rhagfyr 1987 |
Rhaglen adloniant ysgafn oedd Codi Pais a ddarlledwyd ar S4C yn 1987. Roedd y sioe yn cynnwys sgetsau a chaneuon ac yn nodedig am ei fod yn cael ei berfformio gan bedwarawd o ferched, sef Siw Hughes, Sue Roderick, Gillian Elisa ac Eirlys Parri. Darlledwyd pum rhaglen ym mis Ebrill/Mai ac ail gyfres o chwe rhaglen yn Tachwedd/Rhagfyr 1987.[1]