Norah Isaac

Oddi ar Wicipedia
Norah Isaac
Ganwyd3 Rhagfyr 1914 Edit this on Wikidata
Caerau Edit this on Wikidata
Bu farw3 Awst 2003 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Placiau Ysgol Gymraeg Aberystwyth ym mynedfa'r Ysgol yn cynnwys un i gydnabod rhan allweddol Norah Isaac

Awdur ac ymgyrchydd dros addysg Gymraeg oedd Norah Isaac (3 Rhagfyr 19143 Awst 2003).[1][2] Hi, yn 1939, oedd prifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf, ac ysbrydolodd lawer o bobl ifanc yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg a thros y theatr yng Nghymru. Roedd hi yn gymrawd yr Eisteddfod Genedlaethol - yr unig fenyw i dderbyn yr anrhydedd.

Fe'i ganed yn 71 Heol Treharne, ym mhentref Caerau, ger Maesteg yn yr hen Sir Forgannwg ond roedd ei gwreiddiau'n ddwfn yn ardal Drefach Felindre, Sir Gaerfyrddin; roedd yn ferch i David Isaac a'i wraig Margaret (née Jones). Derbyniodd ei haddysg yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg, y Barri[3][4] lle daeth o dan ddylanwad y Pennaeth, Ellen Evans.[5]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 1935 cafodd ei phenodi'n drefnydd Sir Forgannwg, Urdd Gobaith Cymru a gweithiodd yno tan ei phenodiad yn brifathrawes yr ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru, sef Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorodd ar 25 Medi 1939; gweithiodd yno tan 1949 a chododd nifer y disgyblion o 7 i 24. Cydweithiodd lawer gyda sefydlydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, a roddodd lawer o'i amser hefyd yn hyrwyddo addysg Gymraeg; ysgrifennodd fywgraffiad arno. Treuliodd gyfnod fel darlithydd yng Ngholeg y Barri (1950-195) cyn symud i fod yn Brif Ddarlithydd Drama a'r Gymraeg yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin gan ddylanwadu ar sawl cenhedlaeth o fyfyrwyr. Yno, sefydlodd Norah yr Adran Ddrama Gymraeg gyntaf erioed mewn Coleg.

Cyhoeddi[golygu | golygu cod]

Cyfrannodd nifer o sgriptiau radio i'r BBC dros y blynyddoedd. Bu'n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin, 1974. Cyhoeddodd lawer o lyfrau gan gynnwys straeon byrion, teithlyfr ar ei hymweliad â Brasil, yr Ariannin a Cholombia a nifer o ddramâu am gewri'r genedl fel Iolo Morgannwg, Griffith Jones, Llanddowror a William Williams, Pantycelyn.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Yn 1995 derbyniodd Radd Doethur er Anrhydedd Prifysgol Cymru a dyfarnwyd Medal y Cymmrodorion iddi yn 2003, ond bu farw cyn ei derbyn.

Gwobr Norah Isaac[golygu | golygu cod]

Yn 20** lansiwyd 'Gwobr Norah Isaac' gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Dyfernir hi i’r myfyriwr a gafodd y canlyniad gorau yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.[6]

Enillwyr

2014 - Cerith Rhys Jones, Prifysgol Caerdydd
2015 - Manon Elwyn Hughes, Prifysgol Bangor
2016 - Meinir Olwen Williams, Prifysgol Bangor
2017 - Aneirin Karadog, Prifysgol Abertawe
2018 - Anna Wyn Jones, Prifysgol Aberystwyth
2019 - Cerian Colbourne, Prifysgol Abertawe
2020 - Gruffydd Rhys Davies, Prifysgol Aberystwyth
2021 - Sioned Spencer, Prifysgol Bangor

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Papurau Norah Isaac. Llyfrgell Cenedlaethol Cymru. Adalwyd ar 2 Chwefror 2016.
  2. "Marw Norah Isaac" (yn Welsh). bbc.co.uk. 3 Awst 2003. Cyrchwyd 7 Ebrill 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. Stephens, Meic, gol. (1998). The New Companion to the Literature of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 353. ISBN 0-7083-1383-3.
  4. Papurau Norah Isaac ar Wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 3 Gorffennaf 2015
  5. "Rediscovering Ellen Evans (1891–1953),Principal of Glamorgan Training College, Barry" (PDF). Y Cymmrodorion. 2013.
  6. "GWOBR NORAH ISSAC". Gwefan Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-14. Cyrchwyd 2022-02-14.