Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Ysgol gynradd Gymraeg yn Aberystwyth ydy Ysgol Gymraeg Aberystwyth (neu Ysgol Gymraeg yr Urdd fel y'i hadnabyddir yn wreiddiol). Hwn oedd ysgol Gymraeg benodedig gyntaf Cymru.[1]
Cynnwys
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Agorwyd yr ysgol ar 25 Medi 1939 dan nawdd Urdd Gobaith Cymru ac fe'i sefydlwyd gan Syr Ifan ab Owen Edwards fel ysgol breifat, a chodwyd tâl o 4 gini y tymor.[2] Y brifathrawes oedd Norah Isaac, a gyflogwyd am £160 y flwyddyn. Saith disgybl oedd yn ei mynychu i ddechrau: Owen Edwards, Non Gwynn, James Jenkin, Daniel G. Jones, John Wyn Meredith, John Parry a Ruth Thomas. Tyfodd nifer y plant yn gyson: 17 yn 1940, 32 yn 1942, a 56 yn 1944.
Bu ei sefydlu yn drobwynt yn hanes addysg yng Nghymru gan iddi arloesi'r maes a bod y gyntaf o lawer o ysgolion Cymraeg a sefydlwyd wedi hynny, y rhan fwyaf ohonynt gan Awdurdodau Addysg lleol.[3]
Agorwyd yr ysgol gyntaf ar Ffordd Llanbadarn, gan symud i safle yn Lluest ym 1946. Symudodd unwaith eto i safle Ysgol Ffordd Alecsandra ym 1952. Ym 1989 symudodd i'w safle presennol ym Mhlascrug.[2]
Presennol[golygu | golygu cod y dudalen]
Dechreuodd yr ysgol gyda dim ond 7 o ddisgyblion, ond mae hyn wedi tyfu i 350 heddiw, ehangodd yr ysgol lawer yn ystod yr 1980au a'r 1990au pan ddechreuodd rhieni weld gwerth addysg ddwyieithog.[3] Er y gall 95% o ddisgyblion yr ysgol siarad y Gymraeg i safon iaith gyntaf, dim ond 65% a ddaw o gartrefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.[4] Erbyn heddiw mae gan yr ysgol 18 o athrawon, 20 cynorthwyydd a 15 o staff ategol.[3] Noddir yr ysgol gan Oriel y Bont a HSBC.[5]
Y prifathro ar hyn o bryd yw Mr. Clive Williams.
Cyn-athrawon o nod[golygu | golygu cod y dudalen]
- Mary Vaughan Jones, awdures - rhwng 1953 ac 1958
Cyn-ddisgyblion o nod[golygu | golygu cod y dudalen]
- Owen Edwards, darlledwr
- Aled Haydn Jones, cynhyrchydd BBC Radio 1
- Georgia Ruth Williams, cerddor a chyflwynydd ar Radio Cymru
- Vernon Jones, bardd a beirniad eisteddfodol
Cysylltiadau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Dadorchuddio plac i gofio'r Ysgol Gymraeg gyntaf , BBC Cymru Fyw, 25 Medi 2012. Cyrchwyd ar 18 Mehefin 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Birthday bash for first Welsh school. Cambrian News (1 Hydref 2009).
- ↑ 3.0 3.1 3.2 Croeso. Ysgol Gymraeg Aberystwyth.
- ↑ School Inspection 10-12 February 2003. Estyn.
- ↑ Noddwyr yr ysgol. Ysgol Gymraeg Aberystwyth.