Teledu'r Tir Glas

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Tir Glas)
Teledu'r Tir Glas
Enghraifft o'r canlynolcwmni cynhyrchu teledu Edit this on Wikidata
Daeth i ben12 Chwefror 2013 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Rhagfyr 1981 Edit this on Wikidata
SylfaenyddHuw Jones Edit this on Wikidata

Cwmni teledu annibynnol Cymreig oedd Teledu'r Tir Glas, a gydsefydlwyd gan Huw Jones, sylfaenydd cwmni recordiau Sain, a chyn-gadeirydd S4C.

Ffurfiwyd y cwmni ar 1 Rhagfyr 1981 gyda swyddfa yng Nghaernarfon.[1] Daeth cyfnod cynhyrchu rhaglenni y cwmni i ben yn 1993.

Roedd rhai o gynhyrchiadau'r cwmni yn cynnwys Cân i Gymru, Noson Lawen, Hufen a Moch Bach, Helfa Drysor, Plu Chwithig, Nyth Cacwn, Ma' Ifan 'Ma, Bacha Hi O'Ma, Taro Tant, Pen a Chynffon, Tony ac Aloma, Eirlys, Penblwydd Hapus, Traed Moch, Treialon Cwn Defaid, Anturiaethau Dic Preifat a Iasau. Yn wreiddiol roedd y cwmni hefyd yn cynhyrchu'r rhaglen gylchgrawn Hel Straeon ar y cyd gyda Ffilmiau'r Nant.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 26 Medi 2020.