Cân i Gymru 2015

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2015
Rownd derfynol 7 Mawrth 2015
Lleoliad Pafiliwn Môn, Gwalchmai
Artist buddugol Elin Angharad
Cân fuddugol Y Lleuad a'r Sêr
Cân i Gymru
◄ 2014        2016 ►


Cynhaliwyd Cân i Gymru 2015 ym Mhafiliwn Mon, Gwlachmai, Ynys Mon. Cyflwynwyd y gystadleuaeth gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.

Bu 8 o ganeuon yn cystadlu am wobr ariannol ac am y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Wyl ban-Geltaidd.

Beirniadwyd y gystadleuaeth a chwmni cynhyrchu Avanti yn hallt gan y cyfryngau ac ar gyfryngau cymdeithasol am broblemau sain, am safonau isel o gynhyrchu ac am y penderfyniad i gyflwyno panel oedd â'r gallu i waredu ar bedair cân rhag wynebu pleidlais y gynulleidfa. Yn sgil hyn, addawodd S4C i wella safon y rhaglen ar gyfer 2016.

Enillydd y gystadleuaeth oedd Elin Angharad gyda'r gân 'Y Lleuad a'r Ser', a gyfansoddwyd gan Arfon Wyn.

Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
Catrin Hopkins Cariad Pur Pheena
Elin Angharad Y Lleuad a'r Sêr Arfon Wyn 1af £3,500
Sera Owen Oes yn Ôl Sera Owen
Neil Maliphant ac Aneirin Karadog Pluen Wen Neil Maliphant
Cai Morgan a Lewys Mann Tri Mis yn Ôl Cai Morgan a Lewys Mann
Team Panda Tynna Fi i'r Glaw Rhys Llwyd ac Aled Owen
Aled Evans Y Llais Aled Evans
Gareth Delve Y Brwnt a'r Baw Cy Jones a Darren Bolger

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]