Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru 2016

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2016
Rownd derfynol 5 Mawrth 2016
Lleoliad Stiwdio BBC Cymru, Llandaf, Caerdydd
Artist buddugol Cordia
Cân fuddugol Dim ond Un
Cân i Gymru
◄ 2015        2017 ►

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2016 yn Stiwdio Llandaf, BBC Cymru ar 5 Mawrth. Cyflwynwyd y gystadleuaeth gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.

Bu 8 o ganeuon yn cystadlu am wobr ariannol ac am y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Wyl ban-Geltaidd yn Iwerddon.

Roedd gwobr ychwanegol eleni am hoff gân y beirniaid, sef Tlws y Beirniaid, a'r enillydd oedd Cordia. Ar y panel o feirniaid roedd y gantores Alys Williams, y cyflwynydd Guto Rhun a'r cyfansoddwr Robert Arwyn.

Am y tro cyntaf, y gwylwyr yn unig oedd yn penderfynu'r enillydd. Roedd y gynulleidfa adref yn cytuno gyda'r beirniaid gan roi Cordia ar y brig.[1]

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
Sion Meirion Owens Caru nhw i Gyd Sion Meirion Owens
Sarah Wynn Caeth Sarah Wynn
Beth Williams-Jones a Sam Humphreys Y Penderfyniad Beth Williams-Jones a Sam Humphreys
Kizzy Crawford Meddwl am Ti Kizzy Crawford ac Eady Crawford
Geth Vaughan Cannwyll Geth Vaughan
Malan Jones Actor Gorau Cymru Barry Jones
Alun Evans Ar Ei Ffordd Alun Evans
Cordia Dim ond Un Ffion Elis a Rhys Jones 1af £5,000

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Band ifanc o Fôn yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2016-03-06. Cyrchwyd 2025-08-18.