Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru 1985

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 1985
Rownd derfynol 1 Mawrth 1985
Lleoliad Stiwdio BBC Cymru, Caerdydd
Artist buddugol Bwchadanas
Cân fuddugol Ceiliog y Gwynt
Cân i Gymru
◄ 1984        1986 ►

Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 1985 ar Ddydd Gŵyl Dewi.

Bwchadanas oedd yn canu'r chwe chan fu'n cystadlu allan o dros hanner cant o geisiadau. Cyflwynwyd y rhaglen gan Emyr Wyn ac roedd 8 o feirniaid:

  • Caerdydd: Geraint Gruffudd, Siwsann George
  • Abertawe: Gwyndaf Roberts, Richard Jones
  • Aberystwyth: Bethan Bryn, Euros Lewis
  • Bangor: Catrin Edwards, Hefin Elis

Enillydd y gystadleuaeth oedd Bwchadanas gyda'r gân 'Ceiliog y Gwynt'.

Dyma'r flwyddyn gyntaf lle cyflwynwyd y cyfansoddwyr i'r gynulleidfa.

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Trefn Artist Can Cyfansoddw(y)r
01 Bwchadanas Mas i Awstralia Emlyn Dole
02 Bwchadanas Dilyn y Ddraig Paul Gregory
03 Bwchadanas Ar Hyd Mynyddoedd Oer a Llwm Mansel Cedward
04 Bwchadanas Mister Ffol Paul Gregory
05 Bwchadanas Ceiliog y Gwynt Euros Rhys Evans
06 Bwchadanas Ceidwad Cariad Rhys Owen a Charles Britton.