Cân i Gymru 2017
Gwedd
| Cân i Gymru 2017 | |
|---|---|
| Rownd derfynol | 11 Mawrth 2017 |
| Lleoliad | Stiwdio BBC Cymru, Llandaf, Caerdydd |
| Artist buddugol | Cadi Wyn Edwards |
| Cân fuddugol | Rhydd |
| Cân i Gymru | |
| ◄ 2016 | |
Cynhaliwyd Cân i Gymru 2017 yng Nghaerdydd, a chyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.
Derbyniwyd dros 100 o ymgeiswyr eleni a dewiswyd y rhestr fer gan y panel o feirniaid sef Geraint Jarman, Alys Williams, Mei Gwynedd; Rhydian Dafydd a Sion Llwyd. Dewiswyd 10 cân eleni yn lle'r 8 arferol, y nifer mwyaf ers 2004, a dywedodd y beirniaid fod hynny'n adlewyrchiad o'r "safon uchel".[1]
Cadi Wyn Edwards oedd enillydd y gystadleuaeth gyda'r gân 'Rhydd'.
Cystadleuwyr
[golygu | golygu cod]| Trefn | Artist | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
|---|---|---|---|---|---|
| 01 | Betsan Haf Evans | Eleri | Betsan Haf Evans | ||
| 02 | Sophie Jayne Marsh | Pryder | Sophie Jayne Marsh | 3ydd | £1,000 |
| 03 | Siân James | Seren | Mari Lovgreen a Geraint Lovgreen | ||
| 04 | John Nicholas | Ti yw fy Lloeren | Hywel Griffiths | ||
| 05 | Bronwen Lewis | Curiad Coll | Hawys Bryn Williams a Gwion John Williams | ||
| 06 | Neil Williams | Gelyn y Bobl | Richard Marks | ||
| 07 | Llinos Emanuel a Nia Emanuel | Cân yr Adar | Llinos Emanuel | ||
| 08 | Cadi Wyn Edwards | Rhydd | Cadi Wyn Edwards | 1af | £5,000 |
| 09 | Eady Crawford | Rhywun Cystal â Ti | Eady Crawford | ||
| 10 | Caitlin McKee | Fy Nghariad Olaf I | Richard Vaughan ac Andy Park | 2il | £2,000 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cân i Gymru: 10 ar restr fer yn dangos 'safon uchel'". BBC Cymru Fyw. 1 Mawrth 2017. Cyrchwyd 2025-08-18.
| |||||