Cân i Gymru 1969
Gwedd
| Cân i Gymru 1969 | |
|---|---|
| Rownd derfynol | 1969 |
| Lleoliad | Caerdydd |
| Artist buddugol | Margaret Williams |
| Cân fuddugol | Y Cwilt Cymreig |
| Cân i Gymru | |
| | |
Cynhaliwyd Cân i Gymru 1969 o dan yr enw Cân Disg a Dawn, cyfres yn deillio o'r rhaglen Disc a Dawn. Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis "Cân i Gymru" gyda saith cân ymhob un, rhwng Ebrill a Mehefin 1969. Cyflwynydd y rhaglenni oedd Ronnie Williams.[1]
Enillydd y gyfres gyntaf oedd 'Y Cwilt Cymreig' a ganwyd gan Margaret Williams. Cyfansoddwyr y gân oedd Llifon Hughes-Jones, Megan Lloyd Ellis. Gweler yr erthygl Cân i Gymru am mwy o'r hanes.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Lle oeddwn i: Margaret Williams, Cân i Gymru 1969". BBC Cymru Fyw. 2019-03-01. Cyrchwyd 2025-08-19.
| |||||