Cynhaliwyd Cân i Gymru 2021 ar 5 Mawrth yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.
Oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19, nid oedd cynulleidfa fyw, ond ymddangosodd rhith-gynulleidfa ar y llwyfan drwy'r rhyngrwyd. Derbyniwyd 96 o ganeuon i'r gystadleuaeth eleni a dewiswyd rhestr fer gan banel y beirniaid, sef Osian Williams (canwr Candelas), Angharad Jenkins (ffidlwr Calan), y gantores Tara Bethan a’r canwr-gyfansoddwr Huw Chiswell. Dewiswyd 8 cân i'w perfformio ar y noson.[1]
Enillydd y gystadleuaeth oedd Morgan Elwy Williams gyda'r gân "Bach o Hwne".