Cân i Gymru 2019

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2019
Rownd derfynol 6 Mawrth 2019
Lleoliad Canolfan y Cefyddydau, Aberystwyth
Artist buddugol Elidyr Glyn
Cân fuddugol Fel Hyn 'da Ni Fod
Ysgrifenn(wyr) buddugol Elidyr Glyn
Cân i Gymru
◄ 2018        2020 ►

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2019 ar 1 Mawrth 2019 yng Nghanolfan y Cefyddydau, Aberystwyth.[1] Aeth 50 mlynedd heibio, ers lansio'r gystadleuaeth Cân i Gymru nôl yn 1969 pan enillwyd y gystadleuaeth gan Margaret Williams am Y Cwilt Cymreig. Cyflwynwyd y rhaglen gan Elin Fflur a Trystan Ellis Morris a darlledwyd y sioe yn fyw ar S4C.

Yr enillydd oedd Elidyr Glyn, Bangor am ei gân Fel Hyn 'da Ni Fod. Bydd Elidyr Glyn yn derbyn gwobr o £5,000 a bydd yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.[2] Cynhyrchwyd y rhaglen gan gwmni Avanti.

Trefn Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
01 Mared Williams a Jacob Elwy Gewn ni Weld Sut Eith Hi Rhydian Meilir 2il £2,000
02 Miriam Isaac Tyrd yn Agos Emyr Rhys
03 Garry Owen Hughes Tydw i'n Dda Garry Owen Hughes a Gareth Ellis
04 Elen Haf Taylor Ti a Fi Sion Roberts a Rhys Jones
05 Elidyr Glyn Fel Hyn 'da ni Fod Elidyr Glyn 1af £5,000
06 Celyn Llwyd Cartwright Paid â Phoeni Adam Wachter a Gareth Owen
07 Mali Melyn Aros Funud Mali Melyn
08 Dyfrig Evans LOL Dyfrig Evans 3ydd £1,000

Dychan[golygu | golygu cod]

Cafwyd adolygiad ddychannol o'r gystadleuaeth a'r rhaglen gan gymeriad DJ Bry ar Hansh (gwasanaeth ar-lein S4C i gynulleidfa iau a llai traddodiadol y Sianel.[3]

Arddangosfa[golygu | golygu cod]

Cafwyd arddangosfa yn amlinellu hanes y gystadleuaeth yn ardal bwyty Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth i gyd-fynd gyda'r gystadleuaeth. Dangosau'r arddangosfa luniau a dyfyniadau gan gyn berfformwyr a threfnwyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "S4C launches 2011 Cân i Gymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-13. Cyrchwyd 2019-03-02.
  2. Gwefan S4C; adalwyd 2 Mawrth 2019.
  3. https://www.youtube.com/watch?v=jIGJoUcbd0M