Neidio i'r cynnwys

Cân i Gymru 2005

Oddi ar Wicipedia
Cân i Gymru 2005
Rownd derfynol 1 Mawrth 2005
Lleoliad Theatr Glanyrafon Casnewydd
Artist buddugol Rhydian Bowen Phillips
Cân fuddugol Mi Glywais I
Cân i Gymru
◄ 2004        2006 ►

Cynhaliwyd Cân i Gymru 2005 ar Ddydd Gŵyl Dewi o Ganolfan Glanyrafon, Casnewydd. Cyflwynwyd y gystadleuaeth gan Sarra Elgan ac Alun Williams. Roedd hi'n gynhyrchiad teledu Apollo ar gyfer S4C.

Enillwyd y gystadleuaeth gan Rhydian Bowen Phillips gyda'r gân 'Mi Glywais'.[1][2]

Cystadleuwyr

[golygu | golygu cod]
Artist Cân Cyfansoddw(y)r Safle Gwobr
Vanta Enfys Bell Alaw gan Mei Emrys/Martin Howarth/Ger Hughes/Steven Williams a geiriau gan Mei Emrys 3ydd £2,000
Heather Jones Hwiangerddi C21 Alaw a geiriau gan Alun 'Sbardun' Huws
Lleuwen Steffan Hapus Alaw gan Dafydd Saer a geiriau gan Gwyneth Glyn
Tara Bethan O Ble Dest Ti? Alaw gan Nia Medi a geiriau gan Alun Gibbard
Rhys ap Wiliam Man Gwyn, Man Draw Alaw a geiriau gan Ieuan Wyn
Elfed Morgan Morris Mewn Ffydd Alaw gan Elfed Morgan Morris a geiriau gan Lowri Watcyn Roberts 2il £3,000
Catrin Jones Muriau Alaw gan Iwan Evans a geiriau gan Menna Elfyn
Rhydian Bowen Phillips Mi Glywais I Alaw gan Dafydd Jones a geiriau gan Guto Vaughan 1af £10,000

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Geiriau mam-gu yn ennill Can y Gymru". Tivyside Advertiser (yn Saesneg). 2005-03-08. Cyrchwyd 2025-08-18.
  2. "Cân i Gymru: £15,000 o wobrau". 2005-02-25. Cyrchwyd 2025-08-18.