Iris Williams
| Iris Williams | |
|---|---|
Clawr albwm Iris Williams o 1968. | |
| Ganwyd | 20 Ebrill 1946 Rhydyfelin, Pontypridd |
| Bu farw | 9 Gorffennaf 2025 Califfornia |
| Man preswyl | Tonyrefail |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | canwr, cerddor jazz |
| Mam | Iris Waites |
Cantores o Gymru oedd Iris Williams OBE (20 Ebrill 1946 – 9 Gorffennaf 2025).[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Williams ym Mhontypridd, o ganlyniad i berthynas allan o briodas a gafodd ei mam gyda G.I. o America tra roedd ei gŵr yn y fyddin. Gwrthododd gŵr ei mam ei magu a chafodd ei danfon i gartref plant amddifad, cyn cael ei maethu gan Bronwen Llywelyn yn Nhonyrefail. Mrs Llywelyn fagodd diddordeb Williams mewn cerddoriaeth.[2] Roedd ganddi frawd, Ashley Williams ond ni gyfarfu'r ddau nes yr oedden nhw’n oedolion.[3]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu'n gweithio mewn ffatri cyn iddi dderbyn ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.[4] Tra oedd yn y coleg dechreuodd ymddangos ar y rhaglen Disc a Dawn, y ddynes groenddu cyntaf i ymddangos ar raglen deledu Cymraeg. Ym 1968 cyhoeddodd ei record gyntaf, record estynedig yn cynnwys y caneuon Tra Byddo Dŵr; Y Cobler Du Bach, Mi Fûm Yn Caru ac Y Gog Lwydlas.[5] Fe ryddhaodd hi’r gân Pererin Wyf yn 1971.[3] Ym 1974 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân I Gael Cymru'n Gymru Rydd.
Daeth i frig siartiau'r DU ym 1979 gyda'r gân He Was Beautiful, bu ganddi hefyd gyfres deledu Saesneg ar y BBC. Yn 1991 symudodd Williams i fyw yn Efrog Newydd, lle roedd hi'n perfformio'n rheolaidd ar y gylchdaith canu Jazz. Yn y cyfnod yma canodd gyda Bob Hope a Rosemary Clooney, ac o flaen yr Arlywydd Gerald Ford.
Ym 1999 bu Williams yn un o'r sêr a fu'n perfformio mewn cyngerdd arbennig i ddathlu agor Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Ym 1999 gwnaed Williams yn Gymrawd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac yn 2004 dyfarnwyd yr OBE iddi.[6] Roedd hefyd, ers 2006, yn aelod o Orsedd y Beirdd.[7]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Clive Pyatt ym 1982 a chafodd eu mab Blake ei eni ym 1984. Treuliodd sawl cyfnod o'i bywyd yn UDA, yn Efrog Newydd i gychwyn. Yn fwyaf diweddar roedd yn byw yn Rancho Mirage, Califfornia.[8]
Bu farw yng Ngorffennaf 2025 yn 79 mlwydd oed.[9]
Teyrngedau
[golygu | golygu cod]Mewn teyrnged iddi, dywedodd y gantores Beverley Humphreys, mai "canu oedd ei hangerdd erioed" gan ychwanegu fod gan "Iris ei steil jazz unigryw ei hun - bywiog ac urddasol - gyda gwreichionen yn ei llygad - roedd ganddi ffordd o fyw ym mhob cân a ganai."
Dywedodd ei brawd Ashley, "ei fod yn arbennig o agos at ei chwaer" oedd yn "fenyw fywiog a doniol iawn".
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ All Music Iris Williams biography
- ↑ Administrator, walesonline (2014-01-22). "Iris Williams 'owes her success to the kindness of foster carer'". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-10-28.
- ↑ 3.0 3.1 "Teyrngedau i'r gantores Iris Williams". Golwg360. 2025-07-11. Cyrchwyd 2025-07-11.
- ↑ "Y gantores Iris Williams wedi marw yn 79 oed". BBC Cymru Fyw. 2025-07-11. Cyrchwyd 2025-07-11.
- ↑ Iris Williams - Discography
- ↑ "Book king heads Welsh honours" (yn Saesneg). 2003-12-31. Cyrchwyd 2016-10-28.
- ↑ "BBC Cymru'r Byd - Eisteddfod Genedlaethol 2006 - Aelodau newydd Gorsedd y Beirdd". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-07-11.
- ↑ Reyes, Jesus (2025-07-11). "Iris Williams, Rancho Mirage resident and renowned Welsh singer, dies". KESQ (yn Saesneg). Cyrchwyd 2025-07-16.
- ↑ "Y gantores Iris Williams wedi marw'n 81 oed". newyddion.s4c.cymru. 2025-07-11. Cyrchwyd 2025-07-11.