Arena Abertawe
Math | arena |
---|---|
Agoriad swyddogol | 3 Mawrth 2022 |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.616204°N 3.942277°W |
Rheolir gan | Ambassador Theatre Group |
Neuadd adloniant amlbwrpas yw Arena Abertawe wedi ei leoli yn ardal Bae Copr dinas Abertawe. Mae'r arena yn cynnig hyd at 200 o berfformiadau drwy'r flwyddyn yn cynnwys cerddoriaeth, comedi, theatr ac e-chwaraeon ynghyd â chynadleddau a digwyddiadau.
Mae'r brif Awditoriwm yn dal 3,500 drwy gyfuniad o seddi a mannau sefyll ac mae gan y theatr gynadleddau 750 sedd. Mae yna hefyd ystafelloedd cyfarfod i'w llogi.[1]
Datblygwyd yr arena fel rhan o adfywiad yr hen ardal forwrol ger Cei Fictoria, sy'n cynnwys Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Fe'i agorwyd yn swyddogol ar 3 Mawrth 2022 gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford.[2] Mae'n cael ei weithredu gan Grŵp Theatr yr Ambassador a sefydlwyd yn 1992.[3]
Cân i Gymru 2024
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd ffeinal cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 yn yr Arena. Darlledwyd y gystadleuaeth a'r caneuon yn fyw ar S4C ao 8.00pm ar nos Wener Dydd Gŵyl Dewi.Roedd cyfansoddwr y gân fuddugol yn bachu £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peregrine, Chris (2022-03-10). "Swansea Arena is now open and it's ready to deliver that wow factor". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-19.
- ↑ "Agoriad swyddogol cyrchfan £135m Bae Copr Abertawe". Abertawe. Cyrchwyd 2024-02-19.
- ↑ "Ynglŷn â Ni | Arena Abertawe | Safle Swyddogol". cy.swansea-arena.co.uk. Cyrchwyd 2024-02-19.
- ↑ "Can i Gymru 2024". Gwefan Arena Abertawe. Cyrchwyd 4 Mawrth 2024.