Recordiau Sbensh

Oddi ar Wicipedia
Recordiau Sbensh
Math
label recordio
Sefydlwyd2008
Gwefanhttp://sbensh.com Edit this on Wikidata

Label recordiau yw Recordiau Sbensh sydd wedi ei lleoli y ardal Blaenau Ffestiniog.

Stiwdio[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y label yn 2008. Mae Recordiau Sbensh yn y broses (2020) o drosi hen festri capel Bethel, Bro Ffestiniog i stiwido recordio a gofod ymarfer. Er hyn, mae modd gwneud recordiad o safon yma. Bydd y stiwdio recordio ac ymarfer, maes o law yn cynnwys cegin, toilet a swyddfa newydd.[1]

Ystyr y gair "sbensh" yw 'twll dan grisiau', neu lle bychan i gadw pethau.[2]

Artistiaid[golygu | golygu cod]

Ymysg yr artistiaid sydd wedi recordio ar label Recordiau Sbensh, mae Gai Toms a Brython Shag.[3]. Gellir gwrando ar Gwalia gan Gai Toms ac Alys Williams ar dudalen Bandcamp Recordiau Sbensh.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]