Bethel (albwm)
Gwedd
Bethel | ||
---|---|---|
Albwm stiwdio gan Gai Toms | ||
Rhyddhawyd | Rhagfyr 2012 | |
Label | Sbensh |
Ail albwm unigol y canwr Gai Toms yw Bethel. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2012 ar y label Sbensh.
Mae’n albwm dwbl, wedi’i recordio yn yr hen festri capel mae Gai Toms yn gobeithio’i droi yn stiwdio, sy’n talu teyrnged i’r adeilad. Mae llu o artistiaid ardal Ffestiniog wedi cyfrannu at y casgliad.
Dewiswyd Bethel yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]
Canmoliaeth
[golygu | golygu cod]Mae hi’n record sy’n eich tynnu i mewn ar bob gwrandawiad nes eich bod chithau hefyd yn teimlo’n rhan o’r ardal, y gymdeithas a chapel Bethel.
—Ciron Gruffydd, Y Selar