Neidio i'r cynnwys

Helynt Brewer Spinks

Oddi ar Wicipedia
Helynt Brewer Spinks
Enghraifft o:dadleuon, protest Edit this on Wikidata
DyddiadMehefin 1965 Edit this on Wikidata
LleoliadTanygrisiau Edit this on Wikidata

Dadl ynglŷn â hawl y Cymry Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle oedd helynt Brewer-Spinks. Gwrthodai cyfarwyddwr y ffatri, Brewer-Spinks, i'r gweithwyr siarad Cymraeg yn y ffatri yn Nhanygrisiau ym Mehefin 1965.[1] Ildiodd Spinks yn y diwedd yn dilyn gwrthdystiadau ac adroddiadau am yr helynt yn y wasg a'r cyfryngau. Dyma un o'r protestiadau cyntaf lle cafwyd cynrychiolwyr o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn annerch y dorf. Amlygodd yr helynt le israddol y Gymraeg yng Nghymru. Arweiniodd y digwyddiad at sefydlu Undeb y Gymraeg gan John Lasarus Williams.

Cafodd y ffatri fechan, yn hen ysgol Tanygrisiau, ei chymryd drosodd yng ngwanwyn 1965, tri mis cyn yr helynt. Rhoddodd y perchnogion newydd o ganolbarth Lloegr, Whitewell & Hailey Ltd., reolaeth y ffatri yn nwylo Brewer-Spinks, a symudodd i'r Blaenau o Loegr yn unswydd. Ddechrau Mehefin 1965 gorchymynodd Spinks nad oedd neb o'r gweithwyr - Cymry Cymraeg lleol i gyd - i siarad Cymraeg yn y ffatri a bod disgwyl iddynt i gyd arwyddo cytundeb yn cytuno â hynny er mwyn parhau i weithio yno. Diswyddwyd dau o'r gweithwyr: Tom Elmer Jones (41 oed) o Graig y Nos, Blaenau Ffestiniog a Neville Jones o Lwyn Hir, Manod, Blaenau Ffestiniog, gan iddynt wrthod cydymffurfio â'r gorchymyn.[2] Torrodd tymestl ar unwaith, yn lleol a ledled Cymru, gyda nifer fawr o bobl yn protestio ac yn comdemnio Spinks a'r cwmni.

Toriad papur newydd yn rhoi hanes y brotest gyntaf ym Mlaenau Ffestiniog

Cafodd y gweithwyr gefnogaeth y pentrefwyr a sawl gwleidydd. Cefnogodd Tom Jones, Shotton, trefnydd Gogledd Cymru Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Thrafnidiaeth (TGWU) y gweithwyr. Meddai:

"Y ffaith ydi bod y peth yn gwbwl warthus ac mae'r dyn yn chwarae efo deinameit."[3]

Cynhaliwyd sawl cyfarfod cyhoeddus. Ar 24(?) Mehefin 1965, cynhaliwyd "cyfarfod cyhoeddus tanllyd" yn ôl Geraint Jones yn ei gyfrol Brwydr yr Iaith, 1962-67, cyfarfod a drefnwyd gan Gymdeithas Bro Ffestiniog. Anerchwyd y dorf ar ran y Gymdeithas gan Owain Owain a Gareth Miles. Y noson honno, yn ôl John Lasarus Williams a oedd yn bresennol mewn sawl un o'r cyfarfodydd, y creodd Owain Owain ymgyrch newydd: yr ymgyrch i 'beintio'r byd yn wyrdd' chwedl Dafydd Iwan, flynyddoedd yn ddiweddarach: 'Rhybuddiodd Owain, os na cheid penderfyniad cryf y byddai ef, wythnos i'r noson honno am saith o'r gloch, liw dydd, yn mynd o'r tŷ gyda phot o baent du a brwsh ac yn dileu hynny a fedrai o eiriau Saesneg oddi ar hysbysfyrddau ac adeiladau'r llywodraeth yn ninas Bangor.'[4] Yn ôl Geraint Jones, roedd hyn yn "symudiad gwirioneddol o feiddgar a heriol", yn her i bobl Bro Ffestiniog ac i Gymdeithas yr Iaith.[2] Anogwyd y dorf i dderbyn 'her' Owain a chytunwyd i roi naw diwrnod i Brewer-Spinks wrthdroi ei reol.

Drannoeth, cafwyd cyfarfod rhwng yr Aelod Seneddol lleol, D. W Jones a Spinks ac anogwyd Spinks i gytuno a phenderfyniad y cyfarfod: nododd y byddai'n 'ystyried' eu hargymelliad. Ddyddiau wedyn, roedd yn dal i ystyried. Ar y dydd olaf o Fehefin cafwyd cyfarfod cyhoeddus arall, 'a'r teimladau'n llawer ffyrnicach erbyn hyn'.[2] Penderfynwyd galw protest y tu allan i gatiau'r ffatri yn Nhanygrisiau am 7.30 y bore. Daeth dros 200 o bobl i'r brotest honno. Roedd posteri'r dorf yn nodi: 'Ni fynnwn yr anghyfiawnder hwn gan Sais.', No Welsh Not!, 'Parch i'r Iaith, 'Democratiaeth?' a 'Trech Gwlad Nac Arglwydd'. Anerchwyd y dorf gan Cynan, yr Archdderwydd, a wahoddwyd yno gan John Lasarus Williams, un o aelodau Cell Bangor o'r Gymdeithas. Nododd Cynan fod ymddygiad Brewer-Spinks yn Ffasgaidd. Siaradodd Will Whitehead, Undeb Glowyr De Cymru (gyda 65,000 o aelodau) dros yr hawl i'r gweithwyr ddefnyddio eu hiaith eu hunain.[2]

Helynt Brewer-Spinks yn niwylliant poblogaidd

[golygu | golygu cod]

Recordiodd y band Cymreig Tystion record o'r enw Brewer-Spinks EP yn 1998.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 2008), t.93
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Geraint Jones, Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Y Lolfa, 2025), tt.155-7 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw ":0" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  3. John Lasarus Williams, Crwsâd trwy Berswâd: hanes Undeb y Gymraeg a Sioe Gymraeg Porthaethwy (Caernarfon: Undeb y Gymraeg, 2003), t.10
  4. Williams, Crwsâd trwy Berswâd, t.9
  5. https://www.discogs.com/Tystion-Brewer-Spinks-EP/release/2217159

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Ceir pennod ar yr helynt yng nghyfrol John Lasarus Williams, Crwsâd trwy Berswâd: Hanes Undeb y Gymraeg a Sioe Gymraeg Porthaethwy (Llangefni, 2003). Mae Williams yn nodi ei fod yn bresennol yn y protestiadau hyn.
  • Ceir pennod cyfan yng nghyfrol Geraint Jones:'Brwydr yr Iaith, 1962-67 (Y Lolfa, 2025). Nid yw'n nodi a oedd ef yno yn y protestiadau, fodd bynnag.