Thomas Charles Edwards
Thomas Charles Edwards | |
---|---|
![]() Thomas Charles Edwards, tua 1885 (Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru | |
Ganwyd | 22 Medi 1837 ![]() Llanycil ![]() |
Bu farw | 22 Mawrth 1900 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, pregethwr ![]() |
Tad | Lewis Edwards ![]() |
Perthnasau | Thomas Charles-Edwards ![]() |

Ysgolhaig, awdur a gweinidog Cymreig oedd Thomas Charles-Edwards (22 Medi 1837 – 22 Mawrth 1900). Ef oedd Prifathro cyntaf Prifysgol Aberystwyth.[1]
Bywgraffiad[golygu | golygu cod]
Roedd Thomas Charles Edwards yn fab i Lewis Edwards, sefydlydd Coleg y Bala. Addysgwyd ef yn Ngholeg Lincoln, Rhydychen, a dechreuodd bregethu gydag Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn 1856. Daeth yn weinidog capel Windsor Street yn Lerpwl, ac yn ddiweddarach yn weinidog capel Catherine Street yn yr un ddinas. Ystyrid ef yn un o brif bregethwyr ei genhedlaeth.[1]
Yn 1872, sefydlwyd y brifysgol newydd yn Aberystwyth, ac apwyntiwyd Edwards fel y Prifathro cyntaf. Ymddiswyddodd yn 1891, yn rhannol am resymau iechyd ac yn rhannol i ddilyn ei dad fel pennaeth Coleg y Bala, a oedd bryd hynny lawn cyn bwysiced â'r coleg newydd yn Aberystwyth.[1]
Teulu[golygu | golygu cod]
Mae'r hanesydd Thomas Charles-Edwards yn ŵyr iddo.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
Dolenni allanol[golygu | golygu cod]
- Thomas Charles Edwards; Y Bywgraffiadur Ar-lein