Prifysgol Wrecsam
| Prifysgol Wrecsam | |
|---|---|
| Sefydlwyd | 2008 (1887, fel Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Wrecsam) |
| Canghellor | Colin Jackson |
| Is-ganghellor | Joe Yates |
| Myfyrwyr | 7,410 (2005/2006)[1] |
| Israddedigion | 6,840[1] |
| Ôlraddedigion | 435[1] |
| Myfyrwyr eraill | 135[1] |
| Lleoliad | Wrecsam, |
| Campws | Trefol |
| Gwefan | wrexham.ac.uk/cy/ |
Prifysgol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Prifysgol Wrecsam (Saesneg: Wrexham University). Yn cael ei hadnabod cynt fel Prifysgol Glyndŵr Wrecsam a chyn hynny Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru neu NEWI (North East Wales Institute of Higher Education).
Derbyniodd statws prifysgol gyda'r enw Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar 3 Gorffennaf 2008 ar ôl bod yn aelod o Brifysgol Cymru ers 2003. Cafwyd seremoni i gyhoeddi'r brifysgol newydd yn swyddogol ar 18 Gorffennaf 2008 gyda Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ei llywio ac yn derbyn gradd er anrhydedd gyntaf y brifysgol.[2] Enwyd y brifysgol ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a fwriadai sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y Gogledd a'r llall yn y De, ar ddechrau'r 15g. Yn 2023 newidiodd yr enw i Brifysgol Wrecsam yn rhannol oherwydd "proffil uwch" y ddinas erbyn hynny.[3]
Mae Prifysgol Wrecsam bellach wedi gadael Prifysgol Cymru ac yn dyfarnu ei graddau ei hun. Mae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd. Yr Is-Ganghellor yw Joe Yates. Mae gan y brifysgol tua 8,000 o fyfyrwyr llawn-amser gyda 350 ohonyn nhw yn dod o wledydd tramor.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2005/06. Higher Education Statistics Agency online statistics. Adalwyd ar 6 Ebrill 2007.
- ↑ "Wrexham Evening Leader 18.07.08". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-11. Cyrchwyd 2008-07-20.
- ↑ "Newid enw Prifysgol Glyndŵr i Brifysgol Wrecsam". BBC Cymru Fyw. 2023-04-27. Cyrchwyd 2025-08-10.