Goronwy Daniel
Gwedd
| Goronwy Daniel | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Mawrth 1914 |
| Bu farw | 17 Ionawr 2003 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | ystadegydd, swyddog |
| Priod | Valerie Davidia Lloyd George |
| Plant | Anne Margaret Daniel, Gwyneth Roberta Daniel, David Llewelyn Daniel |
| Gwobr/au | Marchog-Cadlywydd Urdd Brenhinol Fictoraidd |
Gŵr dylanwadol iawn a phennaeth cyntaf gwasanaeth sifil y Swyddfa Gymreig oedd Goronwy Hopkin Daniel (21 Mawrth 1914 - 17 Ionawr 2003), Prifathro Prifysgol Aberystwyth a sefydlydd Theatr y Werin, Aberystwyth.
Roedd Goronwy'n un o'r tri aeth i Lundain i siarad â Willie Whitelaw, un o Weinidogion Margaret Thatcher, am yr angen i sefydlu sianel Gymraeg. Gwilym Williams, Archesgob Bangor a Chledwyn Hughes oedd y ddau arall.
Bu'n aelod o Gyngor yr Iaith Gymraeg a sefydlwyd yn 1973.
Priododd Valerie, wyres David Lloyd George. Sefydlwyd Cymdeithas Syr Goronwy Daniel, cymdeithas ar gyfer gweision sifil Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru yn 2009.
Bu farw'n 88 oed.
Categorïau:
- Egin pobl o Gymru
- Genedigaethau 1914
- Marwolaethau 2003
- Academyddion yr 20fed ganrif o Gymru
- Academyddion Prifysgol Aberystwyth
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
- Cyn-fyfyrwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- Gweision sifil o Gymru
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Dyffryn Aman
- Pobl o Ystradgynlais
- Pobl a aned yn Sir Frycheiniog