Emyr Jones Parry

Oddi ar Wicipedia
Emyr Jones Parry
Ganwyd21 Medi 1947 Edit this on Wikidata
Sir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata
SwyddPermanent Representative of the United Kingdom to NATO, Cynrychiolydd Parhaol y Deyrnas Unedig i'r Cenhedloedd Unedig, Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMarchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg Edit this on Wikidata

Diplomydd o Gymro yw Syr Emyr Jones Parry (ganwyd 21 Medi 1947). Roedd yn Gynrychiolydd y Deyrnas Unedig i NATO o 2001 hyd 2003, a Chynrychiolydd y DU i'r Cenhedloedd Unedig o 2003 hyd 2007. Penodwyd yn gadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn 2007, ac ers 2008 ef yw Llywydd Prifysgol Aberystwyth.

Fe'i addysgwyd yn Ysgol y Gwendraeth cyn iddo astudio ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd; yno bu'n llywydd Undeb y Myfyrwyr cyn iddo dderbyn gradd PhD am waith ar bolymerau yng Ngholeg y Santes Catrin, Caergrawnt.

Mae Parry'n briod â Lynn ac mae ganddyn nhw ddau o fechgyn: Mark a Paul. Mae'n aelod brwd o Glwb Criced Morgannwg a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-05. Cyrchwyd 2013-10-26.
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.