William Hazell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
William Hazell
William-hazell-portrait-300x199.jpg
Ganwyd27 Gorffennaf 1890(1890-07-27)
Llundain
Bu farw11 Tachwedd 1964(1964-11-11) (74 oed)
Yn enwog amArweinydd Cymdeithas Cydweithredol Ynysybŵl,
GalwedigaethGlöwr

Roedd William Hazell (27 Gorffennaf 1890 - 11 Tachwedd 1964) yn aelod ac yna yn llywydd Cymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl, Y Rhondda am 30 mlynedd; roedd ganddo weledigaeth eang ynglŷn â chreu gwell dyfodol drwy'r mudiad cydweithredol.

Mae busnes cydweithredol yn fusnes ble mae'r gweithwyr yn berchenogion ar y cwmni ac yn cael pleidleisio ar sut mae rheoli yn hytrach na chyfranddalwyr. Bu nifer fawr o fentrau cydweithredol trwy dde Cymru yn ystod hanner cyntaf yr 20g.

Ym 1954 ysgrifennodd lyfr, The Gleaming Vision, sef hanes Cymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl. Mae’n cofnodi’r modd yr aeth pobl gyffredin ati i drefnu agweddau economaidd a chymdeithasol ar eu bywydau gan ddarparu gwasanaethau cydweithredol ar gyfer eu cymuned. Mae clawr y lyfr, yn dwyn y slogan, “Yet Before Us Gleams the Vision of the Coming Brotherhood”.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 2014 cyhoeddwyd y llyfr - William Hazell’s Gleaming Vision gan Y Lolfa.

Ganed ym 1890 yn St Pancras, Llundain, yr ieuengaf o 5 o blant a’i fagu yn Kentish Town. Pan yn blentyn cymerodd ei dad, a oedd yn ffariar, William i wrthdystiadau sosialaidd ac i Fynwent Highgate i weld bedd Karl Marx.

Yn 7 oed collodd ei fam a gadawodd ei dad am Ryfel y Boer. Ail briododd y tad yn nes ymlaen ond roedd y llysfam yn angharedig a gadawodd William am dde Cymru. Yn 16 oed, yn y flwyddyn 1906, dechreuodd weithio ym mhwll glo Lady Windsor yn Ynysybŵl.

Priododd ferch leol, Deborah Elizabeth Pask, ym 1910 a chawsant 6 o blant ac yn ôl pob sôn fe’i ystyriwyd yn ŵr a thad da.[1]

Mudiad Cydweithredol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ynysybŵl: y Stryd Fawr heddiw.

Pan gyrhaeddodd Hazell dde Cymru roedd ymwybyddiaeth gwleidyddol y dosbarth gweithiol ar gynnydd. Cefnwyd yn gynyddol ar y Blaid Ryddfrydol a thyfodd y mudiad llafur. Codwyd cangen o’r Blaid Lafur Annibynnol (I.L.P.) yn Ynysybŵl ym 1906 ac ar yr un pryd daeth Cyfrinfa Pwll Lady Windsor yn llawer fwy sosialaidd.

Cafwyd cyfarfodydd cyhoeddus gwleidyddol poblogaidd gydag anerchiadau gan ffigyrau megis John McLean a Sylvia Pankhurst.

Pan daeth yn llywydd y Gymdeithas Gydweithredol ym 1935, roedd ganddi 3,345 o aelodau gyda gwerthiant yn llai na £160,000. Pan bu farw ym 1964 roedd gan y Gymdeithas dros 20,000 o aelodau gyda gwerthiant o dros £2 filiwm.

Yn ei anterth roedd gan y mundiad Cydweithredol 300,000 o aelodau trwy dde Cymru gyda Chymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl yn fenter a oedd yn gynnwys: cigydd, nwyddau tŷ, asiantaeth teithio, caffi, adeiladu, peintio ac addurno, peirianyddiaeth moduron, trin gwallt, teganau, trysio teledu a radio, esgdiau, optegydd, trefnu angladdau, chwaraeon, unedau ystafell ymolchi, gyda chanolfannau dosbarthu bara a llaeth.[2]

Cyhoeddodd Hazel doreth o erthyglau (400 o leiaf). Roedd o flaen ei amser o ran cwestiynau cyfartaledd rhyw ac amgylcheddol. Gwelai werth gweithredu gwirfoddol ac ofnai law drom y wladwriaeth.

Roedd Hazell yn weithgar nid yn unig gyda Chymdeithas Gydweithredol Ynysybŵl ond hefyd gyda chyfrinfa pwll Lady Windsor lle y bu’n gadeirydd ar gyfnodau. Bu’n ysgrifennydd Institiwt y Gweithwyr, yn aelod etholedig o’r cyngor lleol am bron 30 mlynedd, yn Gristion argyhoeddedig, yn ddiacon, yn ffyddlon i’w gapel Presbyteraidd.

Dadleuai bod yr undebau llafur erbyn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd yn gynyddol ganoledig fwyfwy dan fawd y prif swyddfa.

Er yn gefnogol i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol gofidiai am golli rheolaeth leol a’r elfennau democrataidd a gwirfoddol. Ofnai wladwriaeth les rhy fawr, biwrocrataidd ac aneffeithiol.

Er ei fod yn edmygu gwaith Marx roedd yn gynyddol feirniadol o’r Blaid Gomiwnyddol oherwydd y cytundeb rhwng Stalin a Hitler a’r hyn ddigwyddodd yn nwyrain Ewrop ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Erbyn 1953 daeth i’r casgliad y gallasai’r byd fod yn well a hapusach lle pe buasai wedi dilyn Robert Owen yn hytrach na Marx.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 William Hazell’s Gleaming Vision - Alan Burge, Y Lolfa , 9781784610081
  2. http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/how-co-operative-movement-dominated-valleys-8391484

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]