Leighton Rees

Oddi ar Wicipedia
Leighton Rees
Ganwyd17 Ionawr 1940 Edit this on Wikidata
Ynys-y-bwl Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mehefin 2003 Edit this on Wikidata
Llantrisant Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr dartiau Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Leighton Thomas Rees (17 Ionawr 1940 - 8 Mehefin 2003) oedd y Pencampwr Dartiau Proffesiynol Byd-eang cyntaf erioed a chwaraewr Rhif 1 y Byd am gyfnod.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Rees ym mhentref Ynysybŵl, Morgannwg, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd Roedd yn fab i Ivor Thomas Rees, gyrrwr loriau ac Olwen, née Holt ei wraig [2]. Mynychodd Ysgol leol Mill Street ym Mhontypridd lle datganodd un o'i athrawon adroddiad diwedd blwyddyn y byddai'n "dda i ddim ond darllen tudalennau chwaraeon y South Wales Echo". Ar ôl gadael yr ysgol, cafodd waith yn ystafell storio cwmni sbarion modur, swydd a wnaeth am dros ugain mlynedd hyd iddo droi'n chwaraewr dartiau proffesiynol ym 1976.

Yn ystod ei gyfnod yn gweithio fel dyn storfa daeth Leighton o hyd i'r gêm dartiau, gan ddod yn chwaraewr rheolaidd i'r timau ei dafarn leol a'i sir. Ni chafwyd unrhyw sylw cenedlaethol go iawn i'r gamp tan 1972. Roedd Sid Waddell, a ddaeth yn sylwebydd yn ddiweddarach ar gyfer y BBC a Sky Sports, yn gynhyrchydd rhaglen o'r enw The Indoor League gan Yorkshire Television ar y pryd - sioe oedd yn dangos twrnameintiau gemau tafarn. Roedd Waddell a'i ymchwilwyr wedi clywed adroddiadau am driawd o chwaraewyr dartiau gwych yng nghymoedd De Cymru, ardal a oedd yn prysur ddatblygu'n maes magu talent ar gyfer y gamp. Roedd Waddell eisoes wedi gweld Alan Evans o'r Rhondda yn chwarae ym Mhalas Alexandra yn ystod Pencampwriaeth News of the World 1972, y twrnamaint dartiau cyntaf a ddarlledwyd ledled Prydain. Y ddau enw arall a grybwyllwyd oedd Tony Ridler o Gasnewydd a Leighton Rees o Ynysybwl.

Yn fuan iawn, cynigiodd Waddell cyfle i'r tri i chwarae yn The Indoor League, a ddechreuodd gael ei darlledu ar draws Prydain o 1973. Ni fu iddynt siomi, sgoriodd Ridler ac Evans nifer o 180au yn eu gemau, ond er nad oedd wedi perfformio cystal ym 1973, Leighton Rees wnaeth dwyn y sioe. Dros lager a sigâr dywedodd wrth y cyflwynydd Fred Trueman, yn ei frand o hiwmor sych nodweddiadol, straeon amdano'i hun ac Evans yn cael y gorau ar Saeson. Aeth Rees ymlaen i gael y llwyddiant mwyaf o unrhyw chwaraewr dartiau yn y Gynghrair Dan Do, gan ddod yr unig chwaraewr i ennill y twrnamaint dartiau ddwywaith.

Gyrfa Darts[golygu | golygu cod]

Ar ôl ennill y twrnamaint dartiau ddwywaith yn y Gynghrair Dan Do ym 1974 a 1976, trodd Rees yn broffesiynol ym 1976 a chyrhaeddodd rownd derfynol Pencampwriaeth Dartiau'r Byd y flwyddyn honno, gan golli i Bill Lennard o Fanceinion. Roedd Rees hefyd yn rhan o dîm Cymru 1977 a enillodd Gwpan Ffederasiwn Darts y Byd cyntaf ochr yn ochr ag Alan Evans a David "Rocky" Jones.

Daeth awr fawr Rees ym 1978 ym Mhencampwriaeth Dartiau Proffesiynol y Byd, yn Nottingham. Yn drydydd ymysg y detholion trechodd Barry Atkinson o Awstralia yn hawdd yn y rownd gyntaf gyda sgôr o 6-0. Yn yr ail rownd bu'n chware yn erbyn ei gyfaill agos, a'i gyd-aelod o dîm Gymru a'r pumed detholyn Alan Evans.[3] Fe drodd y gêm yn glasur gyda'r ddau chwaraewr yn cael cyfartaledd o dros 90 pwynt gyda phob tair darten (digwyddiad prin iawn yn y cyfnod). Cymerodd Evans arweiniad cynnar gan sgorio ambell i 180 cyn i Rees cael y cwblhad deg darten gyntaf erioed y bencampwriaeth (a'r cyntaf erioed i'w ddarlledu ar y teledu) cyn diweddu'n fuddugol ar 6-3. Ar y pryd, cyhoeddodd cynhyrchydd gweithredol y BBC, Nick Hunter, mai dyma'r gêm a wnaeth i ddartiau cyrraedd gwir botensial ei holl ddisgwyliadau gan gadarnhau'r gamp fel eitem deledu genedlaethol am flynyddoedd i ddod.

Yn y rownd gynderfynol, roedd Rees yn ei chael hi'n anodd curo'r Americaniad penderfynol, Nicky Virachkul gan grafu buddugoliaeth 8-7. Roedd y rownd derfynol yn erbyn John Lowe un o fawrion y gamp. Unwaith eto, roedd cyfartaledd Rees yn 90 gyda Lowe dim yn bell ar ei ôl mewn rownd derfynol wych. Bu Rees yn fuddugol 11-7 yn y pen draw ac yn ennill ei unig Bencampwriaeth y Byd.[4]

Wrth amddiffyn ei deitl ym 1979, dychwelodd Rees i'r rownd derfynol, gan guro Evans ar y ffordd cyn colli i Lowe o 5 set i 0. Aeth i'r rownd derfynol eto ym 1980. Aeth allan yn un o'r 16 olaf y 1981 ac wedi hynny, fe'i trechwyd yn y rownd gyntaf ym 1982, 1983, 1985 a 1990. Er gwaethaf hyn, roedd ei gemau bron bob amser yn llenwi neuaddau ac arhosodd yn un o'r cystadleuwyr mwyaf poblogaidd dartiau am weddill ei yrfa.

Dyma pam ei fod yn cael ei gredydu ochr yn ochr â Lowe, Eric Bristow, Bob Anderson, Jocky Wilson, Cliff Lazarenko a bellach Phil Taylor am ddod â dartiau i'r lluoedd ar y sgriniau teledu. Roedd ganddo record dda ar y rhaglen cwis/dartiau Bullseye hefyd, gan sgorio mwy na 301 gyda naw dart ar o leiaf ddau ymddangosiad gan ddyblu arian elusen y cystadleuwyr.

Ysgrifennodd Rees hunangofiant ym 1979, o'r enw "On Darts" a oedd hefyd yn cynnwys awgrymiadau ar sut i chwarae'r gêm.[5]

Tu allan i ddartiau[golygu | golygu cod]

Yn 1980 priododd Rees â Debbie, hogan o Galiffornia, yn Las Vegas tra oedd yn cystadlu mewn twrnamaint yno. Eric Bristow oedd y gwas briodas. Mae stryd yn Ynysybwl wedi'i henwi ar ei ôl, Clôs Leighton Rees. Er mai Rees oedd pencampwr cyntaf y byd, collodd allan ar flynyddoedd gogoniant y byd dartiau. Y wobr am ei deitl oedd £ 3,000 ac wrth i'r arian gwobrwyo godi a thwrnameintiau ddechrau ymddangos ar draws sianelau teledu'r DU, dechreuodd dawn Rees lithro ac ni lwyddodd i i ennill yr un llwyddiant parhaus cafodd Lowe, Bristow a Wilson. Gorfodwyd Rees i wneud ei fywoliaeth o chwarae gemau arddangosfa gyda'i gyfaill mawr Evans.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Rhoddodd Rees y gorau i'w waith arddangos ar ôl cael rheolydd calon wedi'i ffitio; roedd hefyd wedi cael llawdriniaeth i osgoi'r galon yn niweddarach. Dychwelodd i lwyfan Pencampwriaethau'r Byd i dynnu enwau ar gyfer y digwyddiad yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth. Bu farw yn Ynysybwl, yn 2003, yn 63 oed.[6]

Ystadegau[golygu | golygu cod]

Safle Rhyngwladol
Blwyddyn 1975 1976 1977 1978 1979 1980 1981 1982 1983 1984 1985 1986 1987 1988 1989 1990 1991 1992 1995
Safle 15 17 5 1 2 12 10 8 42 42 33 47 70 7 27 41 69 48 135


Dyddiad Twrnamaint Categori Rownd Gwobr
15/05/1994 Pencampwriaeth agored Cymru WDF 1 chwarteri Anhysbys
06/04/1991 Her Pencampwyr y Byd WDF U 11 olaf £400
30/03/1990 Her Pencampwyr y Byd WDF U 7 olaf £500
13/01/1990 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC 32 olaf £1,400
23/09/1988 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U Chwarteri £1,250
26/06/1988 Grand Prix Dartiau'r Byd Tokyo WDF U 16 olaf YEN 1,000,000
01/01/1988 British Open WDF 2 16 olaf £75
23/09/1987 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U Ffeinal £5,000
14/01/1987 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC 32 olaf £700
23/09/1985 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U 32 olaf £450
14/01/1985 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC 32 olaf £500
23/09/1984 WDF Cwpan Ewrop i unigolion WDF 2 Ffeinal £0
23/09/1984 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U 32 olaf £350
23/09/1983 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U 16 olaf Anhysbys
14/01/1983 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC 32 olaf £400
23/09/1982 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U 32 olaf £300
14/01/1982 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC 32 olaf £350
26/10/1981 Matchplay Prydain WDF U Chwarteri £300
23/10/1981 Meistri'r byd WDF Major Chwarteri £125
23/09/1981 Pencampwriaeth Proffesiynol Prydain WDF U Chwarteri Anhysbys
30/06/1981 Bullseye Darts Championship WDF U Chwarteri Anhysbys
14/01/1981 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC 16 olaf £500
04/01/1981 British Open WDF 2 Ffeinal £750
23/09/1980 WDF Cwpan Ewrop i unigolion WDF 2 16 olaf £0
30/06/1980 Butlins Grand Masters WDF U Ffeinal Anhysbys
30/06/1980 Matchplay Prydain WDF U Ffeinal Anhysbys
30/06/1980 Bullseye Darts Championship WDF U 16 olaf Anhysbys
14/01/1980 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC Chwarteri £500
30/06/1979 Matchplay Prydain WDF U Chwarteri Anhysbys
30/06/1979 Bullseye Darts Championship WDF U Chwarteri Anhysbys
14/01/1979 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC Ffeinal £1,750
30/06/1978 Matchplay Prydain WDF U Chwarteri Anhysbys
30/06/1978 Butlins Grand Masters WDF U Pencampwr Anhysbys
14/01/1978 Pencampwriaeth y Byd BDO WDF WC Pencampwr £3,000
23/10/1977 Meistri'r Byd WDF Major 32 olaf £0
01/10/1977 WDF Cwpan y byd unigolion WDF 1 Pencampwr £0
01/10/1977 WDF Cwpan y byd tîm WDF U Pencampwr Anhysbys
30/06/1977 Matchplay Prydain WDF U Semi Ffeinal Anhysbys
30/06/1976 Matchplay Prydain WDF U Semi Ffeinal Anhysbys
30/06/1976 Indoor League WDF U Pencampwr Anhysbys
21/06/1976 British Pentathlon BDO 0 Ffeinal Anhysbys
16/06/1976 Twrnamaint News of the World WDF U Ffeinal Anhysbys
04/01/1976 British Open WDF 2 Chwarteri £25
30/06/1974 Indoor League WDF U Pencampwr Anhysbys


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]