Guto Nyth Brân
| Guto Nyth Brân | |
|---|---|
| Ganwyd | 1700 |
| Bu farw | 1737 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cystadleuydd yn y Gemau Olympaidd |
| Chwaraeon | |
Rhedwr cyflym iawn o'r Rhondda oedd Guto Nyth Brân (1700-1737).[1] Griffith Morgan oedd ei enw swyddogol er mai fel Guto y câi ei adnabod. Fe'i ganed yn Llwyncelyn yn y Rhondda - sy'n rhan o dref Y Porth erbyn hyn - ond symudodd y teulu i fferm o'r enw Nyth Brân gerllaw, sy'n esbonio'i enw.[2]
Mae nifer o straeon i'w cael am Guto. Dywedir y gallai, pan oedd yn fachgen ifanc, redeg i fwrw golwg ar holl braidd y fferm a rhedeg yn ôl i'r tŷ cyn i'r tegell ferwi ar y tân. Curodd sawl rhedwr o fri mewn rasys yn y de, gan ennill arian da mewn gwobrau, a dywedir iddo rasio yn erbyn ceffyl ac ennill.
Ei ras enwocaf oedd yr un olaf iddo'i rhedeg, sef ras o 12 milltir rhwng Casnewydd a Bedwas, yn erbyn Sais o'r enw Prince. Bu bron iddo â cholli'r ras, ond ef fu'n fuddugol yn y diwedd. Ar ddiwedd y ras, dywedir i'w gariad, Siân, ei guro mor galed ar ei gefn yn ei chyffro nes i'r ergyd ei ladd.
Claddwyd Guto yn Llanwynno.[3] Trefnir Ras Flynyddol Nos Galan yn Aberpennar er cof amdano.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "MORGAN, GRIFFITH (1700 - 1737), ' Guto Nyth-brân,' rhedegydd enwog | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2025-04-14.
- ↑ "Morgan, Griffith [known as Guto Nyth-brân] (1700–1737), long-distance runner". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/62911. Cyrchwyd 2025-04-14.
- ↑ Benjamin, Isaac Eurfin (1901). "Bedd Guto Nyth Bran". Cymru (cylchgrawn) 20. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1356903/319#?xywh=-2489%2C-230%2C7811%2C4583.