Llancaiach Fawr

Oddi ar Wicipedia
Llancaiach Fawr
Mathmaenordy wedi'i amddiffyn Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1540 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadGelli-gaer Edit this on Wikidata
SirGelli-gaer Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr168.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6613°N 3.28291°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Maenor Tuduraidd yw Llancaiach Fawr a leolir ger pentref Nelson ym mwrdeistref sirol Caerffili, De Cymru. Saif tuag 20 munud oddi ar yr A472, ychydig i'r gogledd o hen safle Glofa Llancaiach. Adeiladwyd y neuadd yn 1540 ar gyfer Dafydd ap Richard[1][2] ac fe'i cynlluniwyd er mwyn medru ei amddiffyn ar amrantiad yng nghyfnodau stormus y Tuduriaid.

Mae'r faenor bron yn union fel yr oedd yn 1645 yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr. Yn y flwyddyn honno fe ymwelodd y Brenin Siarl I â'r tŷ ar y 5ed Awst i geisio perswadio'r perchennog, y Cyrnol Edward Pritchard, i ddal i fod yn deyrngar i'r brenin ar adeg pan roedd cefnogaeth i'r frenhiniaeth yn gwanhau. Er ei ymweliad, yn fuan wedyn daeth y teulu Pritchard ynghyd â boneddigion eraill De Cymru yn gefnogwyr i'r llywodraeth ac yn nes ymlaen fe amddiffynodd Pritchard Gastell Caerdydd rhag y brenhinwyr.[2]

Mae'r plasdy bellach yn amgueddfa byw sy'n ail-greu hanes drwy'r gweision a'r morynion – yn eu gwisgoedd yn adrodd straeon a hanesion am fywyd yn ystod cyfnod y Cyrnol Prichard. Mae’n un o dai ysbrydion enwocaf Cymru, a threfnir teithiau yng ngolau cannwyll yn Hydref i fis Mawrth). Ceir rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau gan gynnwys hebogyddiaeth, brwydrau'r Rhyfel Cartref, saethyddiaeth a ffeiriau gwlad.

Digwyddiadau[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerffili a'r Cylch 2015 yng ngerddi'r adeilad gan wneud defnydd o'r holl adnoddau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gwefan Saesneg y faenor. Adalwyd 15/08/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-11-27. Cyrchwyd 2012-08-15.
  2. 2.0 2.1 http://www.caerphilly.gov.uk/llancaiachfawr/english/house.html

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Caerffili. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato