Neidio i'r cynnwys

F. George Fisher

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o George Fisher)
F. George Fisher
GanwydFrancis George Fisher
1909
Bargoed, Morgannwg
Bu farw30 Ionawr 1970 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma materPrifysgol Cymru, Caerdydd
Galwedigaethdramodydd a chyfarwyddwr theatr
Cysylltir gydaTheatr Fach Llangefni

Dramodydd a chynhyrchydd [cyfarwyddwr] drama o Gymru oedd F. George Fisher neu Francis George Fisher (1909 30 Ionawr 1970). Fo oedd yr ysbrydoliaeth tu ôl i Gymdeithas Ddrama Llangefni, a sylfaenydd Theatr Fach, Llangefni. [1] Enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dolgellau 1949 am ei ddrama Catrin, oedd yn olrhain hanes Llywelyn ein Llyw Olaf.[2] Bu'n aelod o Bwyllgor Drama Cyngor y Celfyddydau a cafodd ei urddo â'r MBE am ei wasanaeth i'r theatr yng Nghymru ym 1958.[1]

Ganed ef ym Margod, Bwrdeistref Sirol Caerffili bellach. Er mai Francis George Fisher oedd ei enw llawn, roedd yn well ganddo'r enw George Fisher neu F. G. Fisher.[1] Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Lewis, Pengam a Phrifysgol Cymru, Caerdydd, lle graddiodd mewn Mathemateg. Bu hefyd yn gapte ar dîm nofio'r Brifysgol.[1]

Treuliodd gyfnod byr fel "athro mewn coleg cenhadol yng ngorllewin Affrica" cyn derbyn swydd fel athro Mathemateg yn Ysgol Ramadeg Llangefni ym 1932, "a bu'n ddirprwy brifathro yno hyd at ei farwolaeth ddisymwth", nodai ei fab Andrew Fisher.[1]

Cyhoeddoedd ei nofel gyntaf One Has Been Honest yn Saesneg ym 1930, pan oedd yn 21 oed, a chyn iddo Raddio hyd yn oed. Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi a straeon byrion yn The Adelphi a The Twentieth Century yn y 1930au, cyn troi at fyd y ddrama. Llwyfannwyd ei ddrama, The Disinherited, yn Theatr Fach Abertawe ym mis Gorffennaf 1939.[1]

Dysgodd Gymraeg "Tra roedd yng Ngwlad yr Iâ fel is-gapten yn Y Llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd" yn ôl ei fab, "o lyfryn Caradar, Welsh Made Easy", ychwanegodd Andrew Fisher.[1] "O'r cyfnod hwnnw ymlaen, roedd yn benderfynol o ysgrifennu dramâu yn y Gymraeg a meistroli'r gynghanedd".

"Cynhyrchodd, [neu Cyfarwyddodd] 30 o ddramâu, ugain ohonyn nhw yn y Gymraeg, gan gynnwys ei holl weithiau ei hun a chyflwyniadau cofiadwy o weithiau mawr Saunders Lewis. Ei gyfraniad pwysicaf yn ddiamau oedd sicrhau bod gan Gymdeithas Drama Llangefni gartref parhaol gydag agor y Theatr Fach ym Mhencraig, Llangefni, yn 1953".[1]

Ef oedd y cyntaf i lwyfannu a chyfarwyddo Amlyn ac Amig gan Saunders Lewis yn mis Rhagfyr 1946, gyda disgyblion Ysgol y Sir, Llangefni.[3]

Gwaith

[golygu | golygu cod]

Dramâu Theatr (detholiad)

  • Ysgrifennodd o leiaf bum drama fer rhwng 1945 a 1952[1]
  • The Disinherited (1939)
  • Catrin (1949) drama fuddugol Tlws y Ddrama 1949[2]
  • Merch yw Medusa (1951)
  • Noa (1951) cyfieithiad o ddrama Andre Obey.
  • Y Ferch a'r Dewin (1953) cyd-fuddugol yn Eisteddfod 1953.
  • Y Lleoedd Pell
  • Y Blaidd-Ddyn
  • Awena

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Francis George Fisher - Bardd a Dramodwr - Llewelyn Jones, Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1983.

Llwyfannau Lleol - Yr Athro. Hazel Walford Davies, Gwasg Gomer 2000

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 "BBC - Gogledd Orllewin - FG Fisher". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2025-08-05.
  2. 2.0 2.1 Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Dolgellau. 1949.
  3. Davies, Hazel Walford (1995). Saunders Lewis a Theatr Garthewin. Gomer.