Bargod
![]() | |
Math |
tref, cymuned ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Caerffili ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.685102°N 3.229659°W ![]() |
Cod SYG |
W04000728 ![]() |
Cod OS |
ST145995 ![]() |
Cod post |
CF81 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Hefin David (Llafur) |
AS/au | Wayne David (Llafur) |
![]() | |
Mae Bargod[1][2] yn dref a chymuned ar lan afon Rhymni i'r gogledd o Gaerffili ym Morgannwg, Cymru. Fe'i gweinyddir fel rhan o fwrdeistref sirol Caerffili. Mae marchnad wythnosol yn y dre. Mae Caerdydd 23.3 km i ffwrdd o Bargoed ac mae Llundain yn 217.7 km. Y ddinas agosaf ydy Casnewydd sy'n 20.2 km i ffwrdd.
Yn wreiddiol roedd yn dref farchnad wledig, ond tyfodd i fod yn dref sylweddol yn dilyn agor pwll glo yn 1903. Caeodd y pwll glo yn ystod y 1980au, ac mae'r safle nawr yn gartref i barc gwledig.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Hefin David (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Wayne David (Llafur).[3][4]
Tarddiad yr enw[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ceir yn gyntaf, wedi'i ysgrifennu, yn 1799, felly bathiad cymharol ddiweddar ydyw. Mae'n tarddu o enw'r nant "Nant Bargod Rhymni" sy'n llifo i lawr Mynydd y Fochriw i afon Rhymni yn Aberbargoed (Aber Bargoed oedd ffurf 1578). Mae enw'r nant, fodd bynnag, yn llawer hŷn; fe'i gwelir gyntaf yn 1170 "Bargau Remni". Roedd y nant yn ffin naturiol rhwng tiroedd brithdir a Senghennydd Uwch Caeach. Gyda thwf diwydiant 19eg ganrif, galwyd y tir ar yr ochor ddwyreiniol yn Aberbargoed (Aberbargod, 1729), Pontaber Bargoed yn 1794). Galwyd yr ochor orllewinol yn Bargoed. Bargod, felly, oedd y ffurf gynharaf, a hynny'n golygu "ffin". Newidiwyd yr enw, mae'n debyg, oherwydd dylanwad llefydd cyfagos megis Penycoed ac Argoed.[5]
Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod y dudalen]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8][9]
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Alun Hoddinot - ganwyd y cyfansoddwr enwog ym Margoed yn 1929.
- George Fisher - dramodydd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwyddoniadur Cymru; Gwasg y Brifysgol; cyhoeddwyd 2008; tud 67
- ↑ Gwefan Enwau Cymru (Canolfan Bedwyr; adalwyd 17 Mehefin 2013
- ↑ Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Hywel Wyn Owen a Richard Morgan (gol.), Dictionary of the Place-names of Wales, Gwasg Gomer, 2007.
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]
Aberbargoed · Abercarn · Abertridwr · Argoed · Bargoed · Bedwas · Bedwellte · Brithdir · Caerffili · Cefn Bychan · Cefn Hengoed · Coed-duon · Crymlyn · Cwmcarn · Chwe Chloch · Draethen · Fochriw · Gelli-gaer · Y Groes-wen · Hengoed · Llanbradach · Machen · Maesycwmer · Nelson · Pengam · Penpedairheol · Pontlotyn · Pontllan-fraith · Pont-y-Meistr · Rhisga · Rhydri · Rhymni · Senghennydd · Trecelyn · Tredegar Newydd · Tretomos · Waterloo · Wyllie · Ynys-ddu · Ystrad Mynach