Sannan

Oddi ar Wicipedia
Sannan
Eglwys y Seintiau Afran, Ieuan a Sannan, Llantrisant, Ynys Môn
Bu farwGwytherin, Conwy Edit this on Wikidata
Man preswylLlansannan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Blodeuodd5 g Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDewi Sant Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Ebrill Edit this on Wikidata

Sant Celtaidd oedd Sannan (fl. diwedd y 5g - dechrau'r 6g?). Ceir y ffurfiau Senanus a Senen ar ei enw hefyd a cheir sant yn Llydaw o'r enw Seny sydd efallai i'w uniaethu â Sannan.[1] Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar 29 Ebrill yn draddodiadol.

Hanes a thraddodiad[golygu | golygu cod]

Dywedir fod Sannan yn perthyn i gylch Dewi Sant a'i fod wedi sefydlu Llansannan yng ngogledd Cymru (bwrdeistref sirol Conwy). Fe'i cysylltir â Bedwellte yn ne Cymru yn ogystal.[1]

Mae'r traddodiadau amdano'n gymysg ac efallai'n ymwneud â mwy nag un sant o'r enw. Sonnir amdano fel diacon yn Iwerddon a chafodd fab o'r un enw a oedd yn nai i Sant Padrig, ond mae hynny'n ymddangos yn bur annhebygol.[1]

Dethlid gwylmabsant Sannan yn Llantrisant, Môn, yn ogystal ag yn Llansannan a Bedwellty.[1]

Ceir plwyf St Sennen ar benrhyn Land's End yng Nghernyw hefyd ond nid oes sicrwydd mai'r un sant oedd Sennen a Sannan.

Eglwysi[golygu | golygu cod]

Seintiau eraill o'r enw 'Sanan'[golygu | golygu cod]

  • Sanan ferch Cyngen - merch Cyngen o Bowys a Tudglid ferch Brychan,gwraig Maelgwn Gwynedd, yn ôl De Situ Brecheniauc (§12(9) yn EWGT t.15).[2]
  • Sanan ferch Elise - mae'n debygol mai ei thad, Elise, oedd mab Gwylog ap Beli o Bowys; roedd yn wraig i Nowy. Cafodd dri mab: Gruffudd, Tewdws a Cathen (HG 15, JC 8 in EWGT pp. 11, 45).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyndŵr, 2000).
  2. Welsh_Classical_Dictionary; Gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 18 Awst 2017.