Eglwys Sant Sannan, Llansannan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys Sant Sannan, Llansannan
Sant Sannan Eglwys Llansannan Church Conwy Cymru Wales 08.jpg
Math eglwys Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 53.1795°N 3.59641°W Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Cysegrwyd i Sannan Edit this on Wikidata

Dywedir fod Eglwys Sant Sannan, sydd wedi'i lleoli yng nghanol pentref Llansannan, Conw wedi ei chodi yn y 13g; cyfeirnod grid OS: SH93406590. Saif Llansannan tua saith milltir i'r de o Abergele. Bu eglwys cynharach, tua chanllath i ffwrdd, ac mae ei holion i'w gweld hyd heddiw. Oherwydd fod ynddi lawer o rannau canoloesol, gwreiddiol, cafodd ei chofrestru gan Cadw yn Gradd II*.[1] Mae'r to hefyd yn un hynod, er mai o'r 19g mae'n dyddio, gan i'r hen do gael ei dynnu a'i dddefnyddio i godi tai lleol yr adeg honno. Ceir nifer o gofebau i uchelwyr lleol, sy'n dyddio o'r 17eg i'r 19g. Mae'r pulpud yn nodedig iawn acyn mynd yn ôl i'r 17g. Saif ym mhlwyf Petrual, ynghyd â Llanfair Talhaearn, Llangernyw a Gwytherin.[2] Cysegrwyd yr eglwys i Sant Sannan, sant o'r 6ed neu'r 7g a ddaeth o Iwerddon.

Gwyddom i'r hen eglwys gael ei hadnewyddu yn 1778-9, yn fwy na thebyg gan R. Lloyd Williams. Costiodd fil o bunnoedd, a chyfrannodd teulu lleol y Wynniaid hanner hynny. Codwyd y ports hefyd yr adeg yma yn ogystal â tho newydd.[3] Yn rhan orllewinol yr eglwys ceir dwy drochfa bedydd, sydd bellach wedi'u gorchuddio a cheir dau fedyddfaen.

Dywedir fod Sannan yn gyfaill i Ddewi Sant a Teuyth, tad Gwenffrewi a'i fod wedi cael ei gladdu yng Ngwytherin. Ei ddydd gŵyl yw 8 Mawrth.

Mae yma gist a elwir yn "Gist yr Eglwys" gyda'r dyddiad 1683 arni a mainc gyda'r dyddiad 1634 sydd â llun o babi wedi'i cherfio arni.

Cofnodir yr eglwys yn gyntaf yn y Norwich Taxation yn 1254 fel: Ecc'a de Llannssannan ac yna yn Taxatio y Pab nicolas fel Ecclesia de Llansaman.[4]

Henebion a chofebau[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan Coflein; adalwyd Mawrth 2016
  2. llansannan.org; adalwyd Mawrth 2016
  3. britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd Mawrth 2016
  4. Gwefan CPAT; adalwyd Mawrth 2016.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Dolennau allanol[golygu | golygu cod y dudalen]