Gwenffrewi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffenestr o Eglwys Santes Non, ger Tyddewi.

Santes oedd Gwenffrewi, (weithiau Gwenfrewi neu Gwenffrwd) oedd yn byw ynghanol y 7g. Fe'i cysylltir â Treffynnon. Ei gwylmabsant yw naill 22 Mehefin pan cofir ei 'merthyrdod' neu 3 Tachwedd. pan cofir ei 'hail farwolaeth.'

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Daw'r wybodaeth cyntaf amdani o Buchedd Gwenffrewi, yn o'r bucheddau cyntaf a ysgrifennwyd yn y 8g. [1] Mae hwn ymhlith y cofnodion ysgrifenedig cyntaf o hanesion saint Celtaidd.

Bywyd Gwenffrewi[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei thad oedd Thewyth ap Eliud o Degeingl, ac yr oedd ei mam, Gwenlo, ferch Insi o Bowys, yn chwaer i sant Beuno. Bu Thewyth a Gwenlo yn Cristnogion. Rhoddasant darn o dir yng nghwm Sychnant (ger Treffynnon) i Beuno i datblygu llan yno ac ymddiriedasant addysg Gwenffrewi iddo.

Syrthiodd mab pennaeth o'r enw Caradog mewn cariad a hi. Un dydd yn 660 daeth ef i ymweld â Gwenffrewi pan oedd rhieni a'i hewyrth yn y capel. Mae'n ymddangos fod y cyfarfod yma wedi trefnu, gan nid oedd Gwenffrewi gyda'i rhieni. Pan gwrthododd hi priodi Caradog, ceisiodd ei threisio. Llwyddodd Gwenffrewi i ddianc, gan ffoi tuag at y capel. Rhuthrodd Caradog ar ei hôl gan ei taro yn ei gwddf gyda'i gleddyf. Mae'r cofnod cynharaf yn dweud "min ei gleddyf trwy'i mwngwl ai." Llewygodd Gwenffrewi ond clywodd y rhai oedd yn y capel y cyffro a daethant allan. Taflodd Beuno ei glogyn dros Gwenffrewi, gan feddwl ei bod wedi marw, a felltithiodd Caradog. Ffoiodd Caradog "fel cwyr o flaen fflammau" o'r cwm. Aeth mor gyflym nes peri i rhai credu fod y ddaear wedi ei llyncu. Plygodd Beuno i weddïo. Gwelodd symudiad o dan y clogyn a sylwodd bod Gwenffrewi yn fyw a llwyddodd gyda chymorth ei mam i atal y gwaedu, a'i hachau ond arosodd craith, llinell wen hir, ar gwddf Gwenffrewi. Yn y fan ble syrthiodd, dangosodd ei gwaed dŵr yn llifo trwy isdyfiant mewn man ble nad oedd neb wedi sylwi o'r blaen. Mewn cwm a elwid sychnant bu darganfod dŵr yn bwysig, a cloddiodd ffynnon yn y fan. [1]

Am saith mlynedd wedyn arhosodd Gwenffrewi yn Sychnant yn cynorthwyo Beuno. Daeth trigolion yr ardal i adnabod Gwenffrewi am ei charedigrwydd. Pan aeth Beuno i Clynnog Fawr aeth Gwenffrewi i Fodfari i gweithio gyda Deifr. Wedyn aeth i Henllan, Sir Ddinbych i ymuno a Sadwrn. Symudodd wedyn i Gwytherin, Conwy, a dilynodd ei modryb Eleri fel arweinydd y llan. Bu farw yn Gwytherin tua'r flwyddyn 680. Claddwyd hi yno

Dechrau'r Chwedl[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyrir Gwenffrewi yn ferthyr oherwydd datblygodd chwedl fod Caradog wedi torri ei phen ymaeth yn llwyr a llwyddodd Beuno ei iacháu hi yn wyrthiol, trwy osod ei phen yn ôl. Datblygodd y chwedl hon, mae'n debyg, oherwydd y craith ar ei gwddf a'r cred y rhai a'i gwelodd ei bod hi wedi marw. Yn ôl un fersiwn o'r chwedl, rholiodd ei phen i lawr y llethr, a chododd ffynnon yn y fan, sy'n awr yn Ffynnon Wenffrewi yn Nhreffynnon. Yn fuan iawn datblygodd y cred fod dŵr o'r ffynnon yn wyrthiol. Llydainodd hanesion amdani a dechrauodd pobl pererindota i Dreffynnon. Bu y taith poblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol a daeth Gwenffrewi yn adnabyddus trwy ynysoedd Prydain gyda brenhinoedd a boneddigion ymhlith y rhai a ymwelodd â'i ffynnon. Mae pererindota ac ymdrochi yn nŵr y ffynnon yn parhau o hyd.[2]

Abaty Amwythig[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1137 bu Gwenffrewi yn digon adnabyddus i tenu sylw Abaty Amwythig. Cipiodd ei gwedillion o Gwytherin, gan y mynaich a'i ail gladdu yn Abaty Amwythig yn 1138. Ysgrifennnwyd buchedd iddi gan Robert, prior abaty Amwythig, rhwng 1140 a 1167.Mae'n debyg fod y chwedl fod Gwenffrewi wedi cymryd llu o ddiweirdeb pan yn ifanc iawn gan dymuno bod yn lleian wedi ychwanegu yn y cyfnod hon. Mae'n ychwanegiad sy'n cyd-fynd â delfrydau'r Oesoedd Canol yn hytrach nag adlewyrchu agweddau yr eglwysi Celtaidd tuag at riwioldeb. Adeiladwyd creirfa i'w hesgyrn yn yr Abaty ond fe dinistriwyd yn ystod y Diwygiad Mawr. Un darn yn unig sydd wedi goroesi; carreg efo cerfluniau o Ioan Bedyddiwr, Gwenffrewi a Beuno arno.

Y Capel[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n debyg fod Beuno a'i cyfoedion wedi adeiladu eglwys o bren a phridd yn Sychnant. Ailadeiladwyd eglwys o gerrig ar yr un safle, ger y ffynnon; ond dadfeiliodd yr eglwys hon erbyn y 15g. Adeiladwyd eglwys newydd ar gyfer y plwyf yno a'i hailgysegri i Sant Iago. Bu Margaret Beaufort (mam Harri VII) yn cyfrifol am adeiladu'r capel sy'n cysgodi'r ffynnon yn 1500 ac mae'n debyg fod y cysylltiad gyda hi oedd yn cadw y capel rhag cael ei dinistrio yn y Diwigiad Mawr. Daeth y ffynnon yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.[3]

Y "Santes"[golygu | golygu cod y dudalen]

Y mae Gwenffrewi fel 'gwyryf a merthyr' yn cwrdd â'r cymwysterau ar gyfer santes (yn yr ystyr Catholig.),[4] Hi yw'r unig un o santesau Cymru a daeth yn adnabyddus tu allan i'w bro ei hun. Yn eithriadol cysegrwyd sawl eglwys iddi ar ôl yr Oesoedd Canol. Nid yw hi erioed wedi cydnabod fel santes gan unrhyw Bab ond mae nifer o'r eglwysi newydd yn eglwysi Catholig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Hencken, E.R. 1987, Traditions of the Welsh Saints, Brewer
  2. Owen, J.I. 1981, Chwech Chwedl Werin, Canolfan Addysg Clwyd
  3. Llawlyfr "Winnifred's Well
  4. Warner, M. 1976, Alone of All Her Sex, Picador