Abaty Amwythig
Gwedd
| Math | abaty, eglwys |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Amwythig |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.7075°N 2.7442°W |
| Cod OS | SJ4984412474 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Romanésg, pensaernïaeth Gothig |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig |
| Sefydlwydwyd gan | Roger o Drefaldwyn, Iarll 1af Amwythig |
| Cysegrwyd i | Sant Pedr, yr Apostol Paul, y Wir Grog |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Esgobaeth Caerlwytgoed |
Eglwys fawr yn Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Abaty Amwythig (enw llawn: Eglwys Abadol Sant Pedr a Sant Paul, Amwythig). Mynachdy Benedictaidd ydoedd gynt, ond mae bellach yn eglwys blwyf.
Fe'i sefydwyd yn 1083 fel abaty Benedictiaidd gan Roger o Drefaldwyn, Iarll cyntaf Amwythig. Tyfodd i fod yn un o'r abatai pwysicaf yn Lloegr, ac yn ganolfan bererindod o bwys. Er i lawer o'r adeilad gael ei ddinistrio yn yr 16g, goroesodd corff yr eglwys fel eglwys blwyf.
Yn 1138 symudwyd gweddillion y Santes Gwenffrewi i'r abaty o Wytherin, Conwy.[1] Daeth ei chreiriau yn ganolbwynt ar gyfer pererindodau i'r abaty yn ddiweddarach.
Ar dir yr abaty mae cofeb i'r bardd Wilfred Owen, gan y cerflunydd Paul de Monchaux.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ray Spencer, A Guide to the Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)
- ↑ "Symmetry - Wilfred Owen Memorial Sculpture". War Memorials Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Hydref 2022.
