Mari, brenhines yr Alban
Mari, brenhines yr Alban | |
---|---|
Ganwyd | 8 Rhagfyr 1542 Palas Linlithgow |
Bu farw | 8 Chwefror 1587 Castell Fotheringhay, Swydd Northampton |
Man preswyl | Yr Alban, Castell Fotheringhay, Castell Chartley, Paris |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban |
Galwedigaeth | gwleidydd, brenin neu frenhines, pendefig, brenhines cyflawn, brenhines gydweddog |
Swydd | teyrn yr Alban, Consort of France |
Adnabyddus am | Oxburgh Hangings |
Tad | Iago V, brenin yr Alban |
Mam | Mary o Lorraine |
Priod | Ffransis II, brenin Ffrainc, Harri Stuart, Arglwydd Darnley, James Hepburn |
Plant | Iago VI yr Alban a I Lloegr, Stillborn Twin Hepburn, Stillborn Twin Hepburn |
Perthnasau | Harri VIII, Rupert, tywysog y Rhein, Marged Tudur |
Llinach | y Stiwartiaid |
Gwobr/au | Rhosyn Aur |
llofnod | |
Brenhines yr Alban rhwng 14 Rhagfyr 1542 a 24 Gorffennaf 1567 oedd Mari I (hefyd Mari Stewart neu, yn Saesneg, Mary Queen of Scots) (8 Rhagfyr 1542 – 8 Chwefror 1587).[1]
Mari oedd unig etifedd cyfreithlon byw y Brenin Iago V o’r Alban. Dim ond chwe diwrnod oed oedd hi pan fu farw ei thad, ac olynwyd ef gan Mari'r baban. Treuliodd llawer o’i phlentyndod yn Ffrainc tra'r oedd yr Alban yn cael ei rheoli gan raglywiaeth, ac yn 1558 priododd etifedd coron Ffrainc, Francis.[2][3] Mari oedd Brenhines Gydweddog Ffrainc pan ddaeth Francis i’r orsedd yn 1559 tan ei farwolaeth yn Rhagfyr 1560. A hithau bellach yn weddw ifanc, dychwelodd Mari i’r Alban, gan gyrraedd Leith ar 19 Awst 1561.[4] Bedair blynedd yn ddiweddarach, priododd ei hanner cefnder, Henry Stuart, Arglwydd Darnley, ac ym Mehefin 1566 ganwyd mab iddynt o'r enw Iago.[5]
Yn Chwefror 1567, dinistriwyd tŷ Darnley gan ffrwydrad a darganfuwyd Darnley wedi ei lofruddio yn yr ardd. Y gred gyffredinol oedd mai James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell, oedd wedi trefnu marwolaeth Darnley, a chafwyd ef yn euog o’r cyhuddiadau yn Ebrill 1567. Fis yn ddiweddarach priododd ef a Mari. Denodd y briodas lawer o feirniadaeth a arweiniodd at wrthryfel yn erbyn y ddau, gyda Mari yn cael ei charcharu yng Nghastell Loch Leven.[6] Ar 24 Gorffennaf 1567 gorfodwyd hi i ymwrthod â’r goron er mwyn paratoi’r ffordd ar gyfer esgyniad ei mab i orsedd yr Alban. Wedi ymdrech aflwyddiannus i ail-gipio’r goron, gorfodwyd hi i ffoi i gyfeiriad y de, gan ofyn am loches gan ei chyfnither gyntaf, y Frenhines Elisabeth I, yn Lloegr.
Roedd Mari a’i chefnogwyr wedi honni ar un adeg mai ganddi hi oedd yr hawl i etifeddu gorsedd Elisabeth, ac ystyriwyd hi gan lawer o Gatholigion yn Lloegr fel etifedd cyfreithlon Lloegr. Hynny oedd y rheswm dros Wrthryfel y Gogledd yn 1569. Ystyriwyd Mari gan Elisabeth fel bygythiad i’w sefydlogrwydd ar orsedd Lloegr, ac oherwydd hynny, symudwyd Mari yn rheolaidd rhwng gwahanol gestyll a phlastai yn Lloegr er mwyn sicrhau nad oedd yn dod yn ganolbwynt neu’n ffocws cynllwyn neu wrthryfel yn erbyn Elisabeth.[7] Wedi treulio deunaw mlynedd wedi ei charcharu, cafwyd Mari yn euog o gynllwyn i lofruddio Elisabeth yn 1586, a dienyddiwyd hi yng Nghastell Fotheringay ym mis Chwefror 1587.[8]
Priodasau
[golygu | golygu cod]- Y brenin Ffransis II, brenin Ffrainc (24 Ebrill 1558 – 5 Rhagfyr 1560)
- Harri Stuart, Arglwydd Darnley (29 Gorffennaf 1565 – 10 Chwefror 1567)
- James Hepburn, 4ydd Iarll Bothwell (15 Mai 1567 – 14 Ebrill 1578)
Plant
[golygu | golygu cod]Darluniau diwylliannol
[golygu | golygu cod]Llyfrau
[golygu | golygu cod]Ffuglen
[golygu | golygu cod]- Dorothy Dunnett: The Lymond Chronicles (1961-1975)
- Madame de La Fayette: La Princesse de Clèves (1678)
- Jane Lane: The Escape of the Queen (1957)
- Syr Walter Scott: The Abbot (1820)
- Nigel Tranter: The Marchman; Warden of the Queen's March; The Queen's Grace
Cofiant
[golygu | golygu cod]- Antonia Fraser: Mary Queen of Scots (1969)
- Stefan Zweig: Maria Stuart (1936)
Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Robert Burns: "Lament of Mary Queen of Scots, on the Approach of Spring"
- Lope de Vega: "Corona trágica" (1628)
Drama
[golygu | golygu cod]Opera
[golygu | golygu cod]- Gaetano Donizetti: Maria Stuarda
- Thea Musgrave: Mary, Queen of Scots
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Mary of Scotland gyda Katharine Hepburn a Fredric March (1936)
- Mary, Queen of Scots gyda Vanessa Redgrave a Nigel Davenport (1971)
- Mary, Queen of Scots gyda Saoirse Ronan a Margot Robbie (2018)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fraser, Antonia, 1932-. Mary, Queen of Scots. London. ISBN 0-297-17773-7. OCLC 28698.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Fraser, Antonia, 1932-. Mary, Queen of Scots. London. tt. 31–32. ISBN 0-297-17773-7. OCLC 28698.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Relations politiques de la France et de l'Espagne avec l'Écosse au XVIe siècle : papiers d'état, pièces et documents inédits ou peu connus tirés des bibliothèques et des archives de France: Correspondances françaises 1515-1560 (François Ier, Henri II (yn Ffrangeg). Renouard. 1862.
- ↑ Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 134. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
- ↑ Wormald, Jenny. (1988). Mary Queen of Scots : a study in failure. London: G. Philip. ISBN 0-540-01131-2. OCLC 18292524.
- ↑ Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 351. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
- ↑ Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. tt. 368–369. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
- ↑ Guy, J. A. (John Alexander) (2004). My heart is my own : the life of Mary Queen of Scots. London: Fourth Estate. t. 4. ISBN 1-84115-752-X. OCLC 53389141.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan Teulu Brenhinol Prydain
Rhagflaenydd: Iago V |
Brenhines yr Alban 14 Rhagfyr 1542 – 24 Gorffennaf 1567 |
Olynydd: Iago VI |