Stefan Zweig

Oddi ar Wicipedia
Stefan Zweig
Ganwyd28 Tachwedd 1881 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 1942 Edit this on Wikidata
o gorddos barbitwrad Edit this on Wikidata
Petrópolis Edit this on Wikidata
Man preswylSalzburg Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria-Hwngari, Awstria Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Friedrich Jodl Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, cyfieithydd, newyddiadurwr, dramodydd, bardd, beirniad llenyddol, hanesydd, cofiannydd, nofelydd, rhyddieithwr, awdur ysgrifau Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Royal Game, The World of Yesterday, Letter from an Unknown Woman, The Post Office Girl, Beware of Pity Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSigmund Freud Edit this on Wikidata
TadMoritz Zweig Edit this on Wikidata
MamIda Zweig Edit this on Wikidata
PriodFriderike Maria Zweig Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Croes y De Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Stefan Zweig (28 Tachwedd 188122 Chwefror 1942) yn nofelydd, dramäydd, bywgraffydd, gohebydd a chasglwr. Roedd e'n Awstriaid o dras Iddewig a ddaeth yn fyd-enwog yn y 1920au a 1930au, yn yr Almaeneg a'r byd Saesneg yn bennaf.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn fab i Moritz Zweig (1845–1926), ac Ida Brettauer (1854–1938), y ddau o deuluoedd cyfoethog iddewig. Astudiodd athroniaeth ym Mhrufysgol Fiena gan graddio efo PhD ym 1904 ar "Athroniaeth Hippolyte Taine". Er ysgrifennu weithiau ar themäu iddewig doedd e ddim yn grefyddol ac mae ei deulu wedi llawn ymdoddi i'r gymdeithahs Awstriaid. "Iddewig drwy hap a damwain genedigaeth oedd fy rhieni".

Daeth y i gysylltiad ag enwogion y cyfnod megis Arthur Schnitzler and Sigmund Freud; Richard Strauss; Theodor Herzl sylfaenydd Sionistiaeth - cyfronadodd erthyglau i'r 'Neue Freie Presse'; Romain Rolland, enillydd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth 1915. Priododd dwywaith yn gyntaf i Friderike Burger ym 1920 ac wedyn i Lotte Altmann. Dihangodd y ddau i Brydain o Awstria yn 1934, wrth i Hitler dod i rym yn yr Almaen. Wedi ymsefydlu yn Llundain, (lle briododd ei feistres, Lotte Altmann, ym 1939) symudodd i Caerfaddon ym 1939 ond fel "almaenwyr' roedd eu bywyd ym Mhrydain yn anodd ac ofn y Natsiaid yn fawr. Felly symudon nhw i'r UDA yng Ngorffennaf 1940 ac ymgartrefodd y ddau yn Efrog Newydd am gyfnod byr cyn symud wedyn i Brasil. Bu am y ddwy flynedd wedyn mewn tref o'r enw Petrópolis, agos i Rio de Janeiro.[2] Ym mis chwefror, 1942, daethpwyd o hyd i gyrff y ddau Zweig- wedi marw o boenladdwyr - y ddau ohonynt yn dal dwylo.

Yn y tridegau daeth yn ffrind i Richard Strauss, ysgrifennodd libretto i 'Die schweigsame Frau (Y Wraig Dawel). Mynnodd Strauss cyhoeddi enw Zweig yn y rhaglen ar gyfer y perfformiad cyntaf ym Mehefin, 1935 yn Dresden. Felly gwrthododd Goebbels mynychu a stopwyd yr opera ar ôl tri perfformiad yn unig. Cydweithiodd hefyd ar yr opera Daphne, in 1937. Roedd gwaith Zweig ar y rhestr o lyfrau anghyfreithlon dan y Natsiaid. Cyhoeddodd y cyfansoddwr Henry Jolles, cân am Zweig "Último poema de Stefan Zweig", wedi ei seilio ar "Letztes Gedicht", gwaith hwyr gan Zweig yn Nhachwedd 1941. Ei waith olaf oedd "Brasilien, Ein Land der Zukunft" (Brasil, Gwlad y Dyfodol).

Ers y 1980au cyhoeddwyd ac ail-gyhoeddwyd ei waith gan y 'Pushkin Press' a'r 'New York Review of Books' a chyhoeddodd bywgraffiad newydd ym Mrasil gan Alberto Dines. Yn Trodd ei waith am Marie-Antoinette yn ffilm Hollywood efo Norma Shearer yn y prif rôl. Erbyn heddiw mae'r teulu wedi rhoi ei gasgliad pwysig i'r Llyfrgell Prydeinig (ym Mai 1986). Ceir yn y "Casgliad Stefan Zweig" llawysgrifau gan Bach, Haydn, Wagner, a Mahler; ond catalog personol Mozart "Verzeichnüß aller meiner Werke" yw'r darn pwysicaf un.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffuglen[golygu | golygu cod]

1904 Die Liebe der Erika Ewald,

1913 Brennendes Geheimnis, (Cyfrinach tanllyd)

1922 Brief einer Unbekannten) – nofel fer

1922 Amok yn 'Novellen einer Leidenschaft'

1925 Angst.

1925 Die Augen des ewigen Bruders (Llygaid fy mrawd)

1927 Die Unsichtbare Sammlung, neu 'Insel-Almanach auf das Jahr 1927'

1927 Der Flüchtling. Episode vom Genfer See. (Y Ffoadur).

1927 Verwirrung der Gefühle (Drysiad Teimladau) – rhan o gyfrol 'Verwirrung der Gefühle: Drei Novellen'

1927 Vierundzwanzig Stunden aus dem Leben einer Frau (Pedwar awr ar hugain ym mywyd rhyw Wraig)

1930 Kleine Chronik. Vier Erzählungen (Pedwar stori)

1936 Gesammelte Erzählungen (Casgliad o straeon) –

1939 Ungeduld des Herzens (Truenu'r Galon) nofel

1942 Schachnovelle; Buenos Aires, (Y Gwyddbwyllwr) –nofel fer a ysgrifennwyd ym 1938–41, ond a gyhoeddwyd wedi iddo farw.

1981 Clarissa, nofel heb ei gorffen

1982 Rausch der Verwandlung. Roman aus dem Nachlaß;

Gwaith arall[golygu | golygu cod]

Llawer ar gael yn saesneg (dan ffugenw ar y pryd) ac heddiw hefyd ac fel eLyfrau. (gweler Prosiect Gutenberg a'r dolenni)

1920 Drei Meister. Balzac – Dickens – Dostojewski

1921 Romain Rolland. Der Mann und das Werk

1925 Der Kampf mit dem Dämon. Hölderlin – Kleist – Nietzsche

1927 Sternstunden der Menschheit. (Trosiad Saesneg 1940 fel The Tide of Fortune: Twelve Historical Miniatures)

1928 Drei Dichter ihres Lebens. Casanova – Stendhal – Tolstoi

1929 Joseph Fouché. Bildnis eines politischen Menschen)

1932 Die Heilung durch den Geist. Mesmer, Mary Baker-Eddy, Freud)

1932 Marie Antoinette. Bildnis eines mittleren Charakters (Llun Gwraig gyffredin) ISBN 4-87187-855-4

1934 Triumph und Tragik des Erasmus von Rotterdam

1935 Maria Stuart) ISBN 4-87187-858-9

1936 Castellio gegen Calvin oder Ein Gewissen gegen die Gewalt (Yn erbyn heresi)

1938 Magellan. Der Mann und seine Tat) ISBN 4-87187-856-2

1941 Brasilien. Ein Land der Zukunft; (Bermann-Fischer, Stockholm 1941)

1942 Die Welt von Gestern; hunangofiant (cyhoeddwyd yn Stockholm)

1944 Amerigo. Geschichte eines historischen Irrtums) – ysgrifennwyd ym 1942, ISBN 4-87187-857-0

1946 Balzac (cyhoeddwyd o'r llawysgrif gwreiddiol ym Mrasil).

Drama[golygu | golygu cod]

Tersites, 1907

Das Haus am Meer, 1912

Jeremiah, 1917

Llyfrau am Stefan Zweig[golygu | golygu cod]

•Elizabeth Allday, Stefan Zweig: A Critical Biography, J. Philip O'Hara, Inc., Chicago, 1972

•Darin Davis and Oliver Marshall, eds. Stefan and Lotte Zweig's South American Letters: New York, Argentina and Brazil, 1940-42. New York: Continuum, 2010.

•Alberto Dines, Morte no Paraíso, a Tragédia de Stefan Zweig, Editora Nova Fronteira 1981, (rev. ed.) Editora Rocco 2004

•Alberto Dines, Tod im Paradies. Die Tragödie des Stefan Zweig, Edition Büchergilde, 2006

•Randolph J. Klawiter, Stefan Zweig. An International Bibliography, Ariadne Press, Riverside, 1991

•Donald A. Prater, European of Yesterday: A Biography of Stefan Zweig, Holes and Meier Publ., (rev. ed.) 2003

•Marion Sonnenfeld (editor), The World of Yesterday's Humanist Today. Proceedings of the Stafan Zweig Symposium, texts by Alberto Dines, Randolph J. Klawiter, Leo Spitzer and Harry Zohn, State University of New York Press, 1983

•Friderike Zweig, Stefan Zweig, Thomas Y. Crowell Company, 1946 (cofiant amdano gan ei wraig cyntaf)

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. http://moreintelligentlife.com/story/stefan-zweig-secret-superstar
  2. Júlia Dias Carneiro (April 30, 2009). "Revivendo o país do futuro de Stefan Zweig". Deutsche Welle. Text "http://www.dw.de/dw/article/0,,4210755,00.html" ignored (help); Check date values in: |accessdate= (help); |access-date= requires |url= (help)