Antonia Fraser

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Antonia Fraser
Antonia Fraser.jpg
Llais Antonia fraser bbc radio4 desert island discs 27 07 2008 b00cq31h.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd Antonia Pakenham Edit this on Wikidata
27 Awst 1932 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswyl Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth Hanesydd, Ysgrifennwr, nofelydd, cofiannydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Mary Queen of Scots, Marie Antoinette: The Journey Edit this on Wikidata
Arddull Cofiant Edit this on Wikidata
Tad Frank Pakenham Edit this on Wikidata
Mam Elizabeth Pakenham, Countess of Longford Edit this on Wikidata
Priod Hugh Fraser, Harold Pinter Edit this on Wikidata
Plant Flora Fraser Edit this on Wikidata
Gwobr/au Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Gwobr Goffa James Tait Black, Gwobr Cyllell Aur y CWA am Ysgrifennu Ffeithiol, Gwobr St. Louis am Lenyddiaeth, Gwobr hanes Wolfson, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.antoniafraser.com Edit this on Wikidata

Awdures o Loegr yw Antonia Fraser (ganwyd 27 Awst 1932) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei llyfrau ditectif a'i gwaith fel hanesydd, nofelydd a chofiannydd. Hi yw gweddw Harold Pinter (1930–2008) yn 2005, a chyn ei farwolaeth, fe'i gelwid hefyd yn Arglwyddes Antonia Pinter.[1][2][3]

Fraser yw'r cyntaf o wyth o blant Frank Pakenham, 7fed Iarll Longford (1905–2001), a'i wraig, Elizabeth Pakenham, Iarlles Longford; g. Elizabeth Harman (1906-2002). Fel merch iarll Seisnig, rhoddir iddi'r teitl "Yr Arglwyddes" ac felly'n cael ei chyfarch yn ffurfiol fel "Yr Arglwyddes Antonia". Mynychodd Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen, lle bu ei mam, ac Ysgol y Ddraig, hefyd yn Rhydychen. Priododd Hugh Fraser ac yna i Harold Pinter ac mae Flora Fraser, sydd hefyd yn fywgraffydd, yn blentyn iddi. [4][5][6]

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ei gwaith mawr cyntaf, a gyhoeddwyd gan Weidenfeld & Nicolson, oedd Mary, Queen of Scots (1969), a ddilynwyd gan sawl bywgraffiad arall, gan gynnwys Cromwell, Our Chief of Men (1973). Enillodd Wobr Hanes Wolfson ym 1984 ar gyfer The Weaker Vessel, astudiaeth o fywydau menywod yn Lloegr yn yr 17g. Rhwng 1988 a 1989, bu'n llywydd English PEN, a bu'n gadeirydd Pwyllgor Awduron mewn Carchardai.

Mae hi hefyd wedi ysgrifennu nofelau ditectif, gyda nifer ohonynt yn cynnwys y cymeriad Jemima Shore; fe'u haddaswyd yn gyfres deledu a ddarlledwyd yn y DU ym 1983.[7][8]

Dau o'r 13 llyfr ffeithiol diweddaraf yw Marie Antoinette: The Journey (2001, 2002), a wnaed yn y ffilm Marie Antoinette (2006), dan gyfarwyddyd Sofia Coppola, gyda Kirsten Dunst yn rôl y teitl, a The Women in the Life of the Sun King (2006).[9]

Cyhoeddodd ei hunangofiant]] Must You Go? My Life with Harold Pinter yn Ionawr 2010, a darllenodd rhannau ohono ar BBC Radio Four.

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [10]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Mel Gussow, "The Lady Is a Writer", The New York Times Magazine, 9 Medi 1984, Sec. 6, Health: 60, col. 2. Print. The New York Times Company, 9 Medi 1984; retrieved 8 April 2009.
  2. Antonia Fraser, "Writer's Rooms: Antonia Fraser", Guardian, Culture: Books, Guardian Media Group, 13 Mehefin2008; retrieved 8 Ebrill 2009. (Includes photograph of Antonia Fraser's study.)
  3. "Non-Fiction: Author: Antonia Fraser" Archifwyd 20 November 2012[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback., Orion Books, 2004–2007 [updated 2009]; retrieved 9 Ebrill 2009.
  4. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11903482v; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11903482v; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. http://www.nytimes.com/1996/12/04/books/playing-modern-detective-in-the-gunpowder-plot.html. http://www.bbc.co.uk/dna/mbarchers/html/NF2693943?thread=7837484.
  6. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Berlin State Library; Bavarian State Library; Austrian National Library, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html Gemeinsame Normdatei, https://www.dnb.de/gnd, https://www.dnb.de/EN/Home/home_node.html, adalwyd 27 Ebrill 2014Wikidata Q36578
  7. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' Wroe
  8. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' NYTObit
  9. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' FraserSofia
  10. Galwedigaeth: http://www.bbc.co.uk/podcasts/series/dida05.mp. http://www.nytimes.com/2010/11/21/books/review/Prose-t.html.