Henry Stuart, Arglwydd Darnley
Henry Stuart, Arglwydd Darnley | |
---|---|
Ganwyd | 1546 Temple Newsam |
Bu farw | 10 Chwefror 1567 Caeredin |
Dinasyddiaeth | Teyrnas yr Alban |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Matthew Stewart |
Mam | Margaret Douglas |
Priod | Mari, brenhines yr Alban |
Plant | Iago VI yr Alban a I Lloegr |
Llinach | y Stiwartiaid |
Roedd Henry Stuart, Arglwydd Darnley (1546 – 10 Chwefror 1567) yn Frenin yr Alban (fel ail ŵr Mari I, Brenhines yr Alban) o 29 Gorffennaf 1565 hyd ei lofruddiaeth yn 1567. Cafodd un plentyn gyda Mari, y darpar Iago VI o'r Alban ac I o Loegr. Trwy ei rieni roedd ganddo'r hawl i orseddau'r Alban a Lloegr.[1] Lai na blwyddyn ar ôl genedigaeth ei fab, llofruddiwyd Darnley yn Kirk o' Field ym 1567. Mae llawer o naratifau cyfoes sy'n disgrifio'i fywyd a'i farwolaeth yn cyfeirio ato fel yr Arglwydd Darnley yn unig.[2]
Ar 29 Gorffennaf 1565, priodwyd y ddau trwy ddefodau Pabyddol yng nghapel preifat Mari yn Holyrood. Yr oedd Darnley yn gefnder hanner cyntaf i'w wraig trwy ddwy briodas wahanol eu nain, Marged Tudor, gan roi Mary a Darnley yn uchel yn llinell yr olyniaeth ar gyfer gorsedd Lloegr. Yr oedd Darnley hefyd yn ddisgynnydd i ferch Iago II o'r Alban, ac felly hefyd yn y llinell i orsedd yr Alban.
Ef oedd yr ail fab hynaf ond ef oedd yr unig un a oroesodd. Matthew Stewart, 4ydd Iarll Lennox oedd ei dad a'i fam oedd yr Arglwyddes Margaret Douglas, a gefnogai ei hawl i'r olyniaeth Seisnig. Teidiau a neiniau mam Darnley oedd Archibald Douglas, 6ed Iarll Angus, a'r Frenhines Marged Tudur, merch brenin Harri VII o Loegr a gweddw Brenin Iago IV o'r Alban.
Ganed mab Mari a Darnley, sef James (y darpar Frenin Iago VI o'r Alban ac I o Loegr) ar 19 Mehefin 1566 yng Nghastell Caeredin.[3][4]
- ↑ Elaine Finnie Greig, 'Stewart, Henry, duke of Albany [Lord Darnley] (1545/6–1567)', Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 accessed 4 March 2012
- ↑ Mary Queen of Scots, by Antonia Fraser, 13th reprint, London: 1989; ISBN 0-297-17773-7
- ↑ Jenny Wormald, Mary Queen of Scots (London, 2001), p. 163.
- ↑ "BBC – History – James I and VI" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-09-20.