Urdd Sant Bened

Oddi ar Wicipedia
Urdd Sant Bened
Enghraifft o'r canlynolmonastic order, sefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu529 Edit this on Wikidata
Prif bwnclifestance organisation Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbenedictine monk Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifStadsarchief Poperinge Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadGeneral of Order of Saint Benedict Edit this on Wikidata
SylfaenyddBened o Nursia Edit this on Wikidata
Isgwmni/aununs of the order of Saint Benedict Edit this on Wikidata
PencadlysChurch of Sant'Anselmo all'Aventino, Rome Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.osb.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Am yr urdd Anglicanaidd o'r un enw, gweler Urdd Sant Bened (Anglicanaidd).

Urdd fynachaidd yn yr Eglwys Gatholig yw Urdd Sant Bened (Lladin: Ordo Sancti Benedicti), a elwir yn aml y Benedictiaid. O fewn yr Urdd, mae pob mynachlog, abaty a phriordy yn hunanlywodraethol, gyda'r sefydliadau canolog yn eu cefnogi. Sefydlwyd y corff canolog, y Cynghrair Benedictaidd, yn 1883 gan Pab Leo XIII yn ei Summum semper,

Sefydlwyd mynachlog yn Monte Cassino yn yr Eidal gan Sant Bened o Nursia tua 529, y cyntaf o tua dwsin o fynachlogydd a sefydlodd ef. Er hynny, nid oes tystiolaeth ei fod wedi bwriadu sefydlu urdd; mae Rheol San Bened yn pwysleisio fod pob cymuned yn hunanlywodraethol. Daeth tai crefydd yn dilyn Rheol San Bened yn gyffredin iawn yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol.

Dilynir Rheol San Bened hefyd gan y Sistersiaid a'r Trappistiaid, ond nid ydynt hwy yn rhan o'r Cynghrair Benedictaidd.

Urdd Sant Bened yng Nghymru[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd nifer o dai crefydd Benedictaidd yng Nghymru. Priordy Cas-gwent, a sefydlwyd tua 1072 gan William fitzOsbern a'i fab Roger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd, oedd y cyntaf o'r tai yn perthyn i un o'r urddau Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru. Ymhlith y gweddill roedd Priordy Aberhonddu, Priordy Ewenni a Priordy y Fenni. Gweler Tai Benedictaidd Cymru am restr gyflawn.