Tai Benedictaidd Cymru

Oddi ar Wicipedia
Croesfa Priordy Ewenni, dyfrlliw (tua 1797) gan J.M.W. Turner

Sefydlwyd nifer o dai crefydd Benedictaidd yng Nghymru. Y cyntaf oedd Priordy Cas-gwent, a sefydlwyd tua 1072 gan William fitzOsbern a'i fab Roger de Breteuil, 2il Iarll Henffordd. Hwn oedd y cyntaf o'r tai yn perthyn i un o'r urddau Ewropeaidd i'w sefydlu yng Nghymru.

Roedd pob un o'r tai Benedictaidd yng Nghymru yn y de, a phob un wedi ei sefydlu gan arglwydd Normanaidd, er i'r Arglwydd Rhys ail-sefydlu Aberteifi wedi gyrru'r mynachod estron ymaith. Roedd nifer ohonynt wedi eu rhoi yn eiddo i abatai yn Ffrainc, a phan waethygodd y berthynas rhwng Lloegr a Ffrainc yn ddiweddarach, dioddefodd priordai megis Allteuryn a Phenfro oherwydd eu bod yn eiddo i abatai Ffrengig.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Abertawe, 1992)