Priordy y Fenni
| Math | eglwys |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Y Fenni |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 56.4 metr |
| Cyfesurynnau | 51.8215°N 3.01554°W |
![]() | |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
| Cysegrwyd i | y Forwyn Fair |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Esgobaeth Mynwy |
Priordy Benedictaidd yn y Fenni, Sir Fynwy, oedd Priordy y Fenni. Adeiladwyd castell y Fenni tua 1090 gan yr arglwydd Normanaidd Hamelin de Balun, a sefydlodd y priordy tua allan i furiau'r dref rywbryd cyn 1100.
Yn 1291, amcangyfrifwyd gwerth y priordy fel £51, ac roedd yn berchen ar 341 acer o dir. Bwriedid iddo fod a deuddeg mynach a'r prior, ond dim ond pum mynach oedd yno yn 1319; a dywedid bod y rhain ymhell o gadw at y rheol fynachaidd. Llosgwyd y priordy yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr.
Yn 1535, amcangyfrifwyd fod gwerth y priordy yn £129, ac fe'i diddymwyd y flwyddyn ganlynol. Daeth eglwys y priordy yn eglwys y plwyf.
Cerflun Jesse
[golygu | golygu cod]Yn y priordy y mae cerfiad derw mawr o'r ffigur Beiblaidd Jesse sy'n dyddio o'r 15g a fu ar un adeg yn rhan o gerfiad hyd yn oed yn fwy sy'n ffurfio Coeden Jesse yn darlunio llinach Iesu Grist.[1] Mae'n unigryw ym Mhrydain ac wedi'i ddisgrifio gan Tate Britain fel un o'r cerfluniau canoloesol gorau yn y byd.[2] Yn 2016 gosodwyd ffenestr Jesse gwydr lliw newydd a ddyluniwyd gan Helen Whittaker yng Nghapel Lewis, gan ymgorffori'r Jesse pren wrth ei droed.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Christopher Davies, 1992)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Muriel Adams, "The Tree of Jesse", History Today, 19 Ionawr 2015; adalwyd 29 Gorffennaf 2025
- ↑ "Image and Idol: Medieval Sculpture", Tate Britain; adalwyd 29 Gorffennaf 2025
