Caerferwig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Berwick-upon-Tweed
P8300626.sized.jpg
Math Tref, Plwyf sifil Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
City of Casey, Haan, Sarpsborg, Berwick, Trzcianka Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Northumberland
(Sir seremonïol)
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Gerllaw Afon Tuedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 55.7667°N 2°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E04010744 Edit this on Wikidata
Cod OS NT995525 Edit this on Wikidata
Cod post TD15 Edit this on Wikidata

Tref fwyaf gogleddol Lloegr yw Caerferwig (Saesneg: Berwick-upon-Tweed). Saif yn sir Northumberland, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ger aber Afon Tuedd. Mae 2.5 milltir (4 km) i'r de o'r ffîn rhwng Lloegr a'r Alban. Roedd y boblogaeth yn 11,665 yn 2001.

Mae Caerdydd 482.8 km i ffwrdd o Caerferwig ac mae Llundain yn 489.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 75 km i ffwrdd.

Bu llawer o ymladd rhwng yr Alban a Lloegr o'r 11g ymlaen ynghych Caerferwig, a bu'n rhan o'r ddwy wlad ar brydiau. Wedi i Edward I, brenin Lloegr gipio'r dref yn 1296, lladdodd nifer fawr o'r trigolion. Mae wedi bod yn rhan o Loegr ers 1482.

Erys nifer o gysylltiadau a'r Alban, er enghraifft mae timau peldroed a rygbi'r undeb y dref yn chwarae yng nghyngrair yr Alban yn hytrach na Lloegr. Roedd Deddf Cymru a Berwick 1746 yn datgan fod unrhyw gyfeiriad at "Lloegr" yn cynnwys Cymru a Chaerferwig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Northumberland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Northumberland. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato