Afon Tuedd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Tweed01LB.jpg
Afon Tuedd yn Coldstream

Afon yn yr Alban a Lloegr yw Afon Tuedd[1] neu Afon Tweed (Saesneg: River Tweed, Gaeleg: Uisge Thuaidh). Mae'n 97 milltir o hyd.


Ceir tarddle'r afon ar Tweedsmuir, yn Tweed's Well ar Fryniau Lowther. Llifa tua'r dwyrain, heibio Peebles, Galashiels, Melrose, Kelso a Coldstream. Am 27 km, ffurfia'r ffîn rhwng yr Alban a Lloegr gerllaw Berwick-upon-Tweed. Mae’r afonydd sydd yn llifo i’r Tuedd yn cynnwys Afon Talla, Afon Lyne, Afon Leithen, Afon Gala, Afon Ettrick, Afon Yarrow ac Afon Teviot.[2]


Mae'r afon yn adnabyddus am gynnig pysgota da am eog, brithyll a phenllwyd Mae’r tymor pysgota ar gyfer eog yn estyn o 1 Chwefror i 30 Tachwedd.[3].


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]