William Jones (Siartydd)
Gwedd
| William Jones | |
|---|---|
William Jones o flaen ei well | |
| Ganwyd | 1809 Pont-y-pŵl |
| Bu farw | 1873 Awstralia |
| Dinasyddiaeth | Unknown |
| Galwedigaeth | gwleidydd, oriadurwr |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Un o arweinwyr y siartwyr oedd William Jones (1809-1873). Roedd yn actor ac yn wneuthurwr clociau ym Pont-y-pŵl, Sir Fynwy (Torfaen bellach), a chadwai dafarn fechan hefyd.
Cafodd ei ddedfydu i'w grogi a'i chwarteru am ei ran yn nherfysg Casnewydd yn 1839 gyda John Frost a Zephaniah Williams. Arweinodd griw o ddynion o Bont-y-pŵl i Gasnewydd yn 'rhan o'r derfysg mwyaf a phwysicaf gwledydd Prydain yn y 19g'.[1].
Fe'i dedfrydwyd yn Neuadd y Sir, Trefynwy i farwolaeth, ond newidiwyd y ddedfyd i alltudiaeth ac fe'i danfonwyd i Awstralia lle bu farw'n ŵr tlawd. cafodd y Siartwyr Bardwn yn 1856, ond yn wahanol i Frost a ddychwelodd i Loegr, arhosodd Jones yn Awstralia ble gweithiai fel trwsiwr clociau.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Saesneg: Portrait of Jones on trial Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Edward Royal, Chartism, Longman, London: 1996