Isabelle o Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Isabelle o Ffrainc
Ganwyd1295, 1296 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw22 Awst 1358, 1358 Edit this on Wikidata
Castle Rising Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethrhaglyw Edit this on Wikidata
Swyddrhaglyw Edit this on Wikidata
TadPhilippe IV, brenin Ffrainc Edit this on Wikidata
MamJoan I o Navarre Edit this on Wikidata
PriodEdward II, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
PlantEdward III, brenin Lloegr, John of Eltham, iarll Cernyw, Eleanor o Woodstock, Joan o'r Tŵr Edit this on Wikidata
LlinachCapetian dynasty Edit this on Wikidata
Sophie Marceau yn rhan Y Dywysoges Isabelle yn y ffilm Braveheart

Tywysoges o Ffrainc a briododd Edward II o Loegr oedd Isabelle o Ffrainc neu Isabelle de France (129522 Awst 1358).

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd Isabelle ei geni ym Mharis, yn ferch i'r brenin Philippe IV ac yn chwaer i dri o frenhinoedd Ffrainc.

A hithau'n ferch 14 oed, bu rhaid iddi briodi Edward II, brenin Lloegr, mab Edward I, brenin Lloegr, yn 1308. Diflasodd yn llwyr ar ei ŵr ar croeso llugoer a gawsai yn llys Lloegr, a dychwelodd i Ffrainc yn 1325 ar ôl i'w frawd Siarl IV, brenin Ffrainc gipio llawer o diriogaethau'r Saeson yn Ffrainc.

Syrthiasai mewn cariad â'r barwn Roger de Mortimer (Iarll y Mers yn ddiweddarach) tra yn Lloegr, ac yn 1326 arweiniodd Isabelle fyddin i Loegr. Trechodd fyddin Edward II a gorfododd iddo ildio gorsedd Lloegr i'w mab, Edward, a oedd yn fwy derbyniol i'r barwniaid. Rheolodd Isabelle a'i chariad Roger de Mortimer yn enw Edward, a oedd yn rhy ifanc i fod yn frenin. Yn 1327 llofruddiwyd Edward yng Nghastell Berkeley, ar orchymyn Roger ac Isabelle yn ôl pob tebyg.

Ond pan ddaeth Edward i'r orsedd fel Edward III, trôdd ar ei fam a Mortimer a chawsant eu harestio. Dienyddwyd Mortimer yn y ffordd erchyll arferol ar gyfer y rhai a ystyriwyd yn fradwyr a gorfodwyd Isabelle i ymneilltuo i gwfent yn Castle Rising, ger King's Lynn, lle bu aros am weddill ei dyddiau.

Plant[golygu | golygu cod]

Ffuglen[golygu | golygu cod]

Mae Isabell yn gymeriad canolog yn y ffilm Braveheart lle mae'n cael ei phortreadu fel cariad William Wallace.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Blackley, F. D. 'Isabella of France, Queen of England 1308-1358, and the Late Medieval Cult of the Dead' (Canadian Journal of History)
  • Doherty, P. C. Isabella and the Strange Death of Edward II (2003)
  • McKisack, May, The Fourteenth Century 1307-1399 (1959)
  • Woods, Charles T., 'Queens, Queans and Kingship', yn Joan of Arc and Richard III: Sex, Saints and Government in the Middle Ages (1988)
  • Weir, Alison. Queen Isabella: Treachery, Adultery, and Murder in Medieval England (Balantine Books, 2005)