William Parry

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o William Parri)
William Parry
GanwydLlaneurgain Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mawrth 1585 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, ysbïwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1584-85 Parliament Edit this on Wikidata

Cynllwynwr Catholig a Doethur yn y Gyfraith Wladol (Sifil) oedd William Parry [1] (bu farw 2 Mawrth 1585).

Hanai William Parry o Laneurgain, Sir y Fflint; roedd yn fab i Henry ap David, mae'n debyg.

Gwasanaethodd William Parry yr Arglwydd Uwch Drysorydd Burghley, sef William Cecil, yn ysbïo ar y Pabyddion, yn rhannol efallai er mwyn dianc rhag ei ofynwyr mewn cyfnod crefyddol cythryblus. Croesodd i'r cyfandir yn 1571, 1579 ac yn 1582. Gydag amser daeth i gydymdeimlo fwyfwy ag achos Pabyddiaeth a rhywsut fe'i cafodd ei hun yn gysylltiedig â chynllwyn gwleidyddol-grefyddol ei natur a'i harweiniodd mor bell â'r Eidal. Yno ceisiodd gael trafodaethau gydag ysgrifennydd Brenin y Catholigion yn Fenis.

Cynllwyn i ladd y Frenhines Elisabeth I [2][3] oedd hwn, er mwyn ceisio dychwelyd ynys Prydain i'r grefydd Gatholig ac i ymwrthod â diwygiadau Protestanaidd. Daeth yn amlwg fod y cynllwyn 'bradwrus' yma wedi deillio o ganlyniad i'r mesur seneddol yn y Tŷ Cyffredin [4] oedd yn condemnio'r Jeswitiaid yn 1584. Wedi cyfnod manwl o groesholi difrifol fodd bynnag, fe'i dyfarnwyd yn euog o frad yn erbyn y Frenhines.

Cafodd ei ddienyddio ar 2 Mawrth, 1585 [5] er gwaethaf ei erfyniadau taer i'w Mawrhydi yn datgan nad oedd unrhyw fwriad ganddo heblaw gwneuthur Ewyllys Duw a'r Pab. Erys amheuaeth ynghylch i ba raddau y bu'n euog o'r drygioni hwn, a phaham y ceisiodd weithredu y fath gynllwyn ysgeler. Rhoddwyd gweddi a mawl i Dduw yn y senedd yn fuan wedyn, i roi clo fel pe tae, ar y digwyddiad hwn a ddaeth i'r golwg yn ystod argyfwng gwladol, a hynny yn hollol ddirybudd fe ymddengys.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau a llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  1. William Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 17 Mawrth 2016
  2. A True and Plaine Declaration of the Horrible Treasons practiced by William Parry (1585) published by C. Barker (London)
  3. A True and Plain Declaration of the Horrible Treasons practiced by William Parry, Dr. of the Civil Law (1679) published by Green Dragon & Fleetstreet (London)
  4. The Golden Speech of Queen Elizabeth to her Parliament, 20 November, 1601 (England and Wales. Sovereign 1558-1603 : Elizabeth I)
  5. The Last Words of William Parry a Lawyer who Suffered for Endeavouring to Depose the Queen's Highness, and bring in Queen Mary and her young son James (1700?); ysgrifennwyd 1584; argraffwyd yn Llundain

!