Pen-y-bryn, Abergwyngregyn
Math | maenordy, tŵr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Aber |
Sir | Aber, Aber |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 48.5 metr, 48.3 metr |
Cyfesurynnau | 53.2347°N 4.0117°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN218 |
Maenordy deulawr gyda rhan ohono'n dyddio'n ôl i gychwyn y 12g ydy Pen-y-bryn neu Pen y Bryn (ac yn anghywir: Garth Celyn), tua 200 metr o Abergwyngregyn, Gwynedd a thua 5 milltir i'r dwyrain o Fangor; saif ar fryn coediog sy'n edrych dros y pentref ac Afon Menai. Yr enw cyfoes am y tŷ yw Pen y Bryn. Fe'i gwnaed o garreg leol a tho llechen ar wahanol adegau, ac ar chwe chyfnod gwahanol. Mae ganddo dŵr pedair llawr anghyffredin a gysylltir gan rai gyda Llywelyn Fawr a Siwan. Cyfeirnod OS: SH653726. Ceir dogfen sy'n dyddion ôl i 1553 am breswylydd o'r enw Rhys Thomas a'i wraig Jane yn prynnu'r tŷ a'r tiroedd o'i amgylch pan oedd wedi mynd a'i ben iddo; o'r herwydd mae dyddio carbon yn rhoi dyddiadau ar ôl 1553.
Yn hanesyddol, saif mewn safle strategol bwysig, lle mae'r hen ffordd o'r dwyrain dros Fwlch y Ddeufaen yn disgyn at arfordir Afon Menai a'r fferi drosodd i Lanfaes ar Ynys Môn.
Yn 1988 honodd perchennog y tŷ Kathryn Gibson a Myrddin ap Dafydd mai'r adeilad hwn yw "Garth Celyn", Llys Tywysogion Gwynedd,[1] ond mae ymchwil Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn 2012 yn datgan "nad oes dim tystiolaeth argyhoeddedig i ddweud mai Pen-y-Bryn yw "gwir safle palas Llywelyn".[2] Ategwyd hyn gan Hywel Thomas o Gwmni Adfywio Abergwyngregyn a Dewi Roberts, Cadeirydd y Cyngor lleol Credwn ni a llawer un arall fod y dystiolaeth sydd ar gael yn ffafrio'r safle arall sydd yng nghanol y pentre.
Dyddio Pen y Bryn
[golygu | golygu cod]Ceir cofnod fod adeilad - rhywle ar dir Pen y Bryn - wedi ei godi rhwng 1303-1306, cofnodir y manylion a bod gwith eitha trwm a oedd yn cynnwys cludo cerrig wedi'u siapio a chalch i wnued mortar. Does dim olion o gerrig mawr ar y safle arall - safle'r Mŵd, a chredir fod y safle yn y fan honno braidd yn fach i lys eitha mawr.[3] Gwyddys hefyd i Rys a Jane Thomas fyw yma yn 1553, gan ei brynnu oddi wrth Coron Lloegr. Mae'r pren yn nho'r prif dŷ wedi'u dyddio i rhwng 1619 a 1624.[4] Gwyddys hefyd fod y tŷ wedi'i adeiladu ar chwe chyfnod a bod hanes hir i'r tŷ cyn iddo gael to newydd tua 1620.[5] Codwyd y tŵr ar ôl gweddill y tŷ a chafwyd gryn ychwanegiadau yn y 18g.
Llys Tywysogion Gwynedd yn Aber?
[golygu | golygu cod]Roedd gan Dywysogion Gwynedd lys yn Abergwyngregyn. Mae ei union leoliad yn bwynt dadleuol; dywedir fod dau safle'n bosibl, naill ai ger Pen y Mŵd, gerllaw ar lan yr afon, a'r llall ar safle Garth Celyn.[6] Ceir adfeilion o'r Oesoedd Canol yng Ngarth Celyn, wedi cael eu dehonglu fel gwaith maen ond sy'n anodd eu ddyddio.[7][8] Wrth y Mŵd mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd wedi dadorchuddio adeilad o Oes y Tywysogion, a'i nodi fel llys brenhinol.[9][10][11] Ers 1988, haerwyd mai safle'r tŷ presennol yw safle llys y Tywysogion,[1]
Cyfnod y Tywysogion
[golygu | golygu cod]Yn wreiddiol, Aberffraw ym Môn oedd prif lys brenhinllin Gwynedd, ond Garth Celyn, prif lys cantref Arllechwedd, oedd y prif lys yn ystod teyrnasiad Llywelyn Fawr, a pharhaodd yn brif lys yng nghyfnod ei olynwyr Dafydd ap Llywelyn a Llywelyn ap Gruffudd. Er bod y tywysogion yn dal i fynd "ar gylch" ar adegau o'r flwyddyn i gynnal y llys brenhinol yn lleol, Aber oedd safle llys Tywysogaeth Cymru annibynnol yn y 13g. Yn y llys yn Abergwyngregyn y bu farw Y Dywysoges Siwan, gwraig Llywelyn Fawr, a'u mab Dafydd ap Llywelyn. Yma hefyd y cafwyd Gwilym Brewys yn ystafell wely Siwan yn 1230. Ceir nifer o lythyrau a dogfennau eraill sy'n nodi eu bont wedi eu hysgrifennu yng "Ngarth Kelyn". Ganed Y Dywysoges Gwenllian, merch Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort, yn y llys ar 12 Mehefin 1282.
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Garth Celyn o hirbell.
-
Y tŷ a'r tŵr, o bosib lle carcharwyd Siwan.
-
Golwg manwl o'r tŵr.
-
Y tŵr eto.
-
Llun manwl.
-
Y capel y tu ôl i'r tŵr.
-
Yr hen fynedfa i Arth Celyn, drwy'r porth hwn
-
Y tu fewn i'r porth yn 2004
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (am ddim) [1] Archifwyd 2012-03-13 yn y Peiriant Wayback, (archif) [2] Ian Skidmore, Daily Post, 19 Tachwedd 2001
- ↑ Golwg29 Tachwedd 2012; tudalen 4 - 5.
- ↑ A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. tud 110-112. [3] Archifwyd 2014-04-07 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 5 Tachwedd 2012
- ↑ Main range tree-ring dated 1619-24. Tree-ring dating commissioned by the North-west Wales Dendrochronological Project in association with RCAHMW, and reported in Vernacular Architecture 41 (2010), tud. 114: ABER, Pen-y-bryn (Garth Celyn) (SH 6582 7273) Torrwyd y coed rhwng 1619–24. Archifwyd 2012-04-01 yn y Peiriant Wayback Gwefan Coflein
- ↑ A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing (Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi, 2012), t. 6. http://www.castles99.ukprint.com/PenyBryn.pdf Archifwyd 2014-04-07 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 5 Tachwedd 2012
- ↑ Tystiolaeth Garth Celyn. Gweneth Lilly, Llanfairfechan. Y Traethodydd, Cyf. CLIII (644-647) 1998 tt. 145-7. [4] Archifwyd 2014-05-06 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 21 Tachwedd 2012
- ↑ "The complex included other structures, including a barn or gatehouse (possibly rebuilt about 1700 on earlier stonework) and the present tower."PEN-Y-BRYN, BARN, ABER Archifwyd 2012-04-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd ???
- ↑ A Brief Report on Pen y Bryn and Aber, Gwynedd. Paul Martin Remfry. Castle Studies Research & Publishing Astudiaethau Castell Ymchwil A Cyhoeddi. 2012. Tud 113. [5] Archifwyd 2014-04-07 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "THE LLYS AT ABER, HOUSE EXCAVATED AT PEN Y MWD" Archifwyd 2012-04-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 21 Chwefror 2011
- ↑ ""ABER CASTLE OR PEN-Y-MWD MOUND"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-01. Cyrchwyd 2012-11-22.
- ↑ John Roberts, archaeologist for the Snowdonia National Park Authority. Final viewing for Abergwyngregyn's Welsh princes site at news.bbc.co.uk