Madog ap Gwallter

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd a brawd crefyddol oedd Madog ap Gwallter (fl. ail hanner y 13g?). Yn ôl pob tebyg, roedd yn frodor o Lanfihangel Glyn Myfyr (sir Conwy heddiw), er nad oes sicrwydd am hynny.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni wyddys llawer amdano ar wahân i'r hyn y gellir casglu oddi wrth ei waith. Cofnododd John Davies o Fallwyd ei enw fel y brawd Fadog ap Gwallter mewn nodyn ganddo yn Llyfr Coch Hergest ac mewn llawysgrif arall cofnoda'r dyddiad fl. A.D. 1250. Ar sail hyn a natur ei waith mae lle i gredu ei fod yn frawd crefyddol ac efallai'n un o'r Brodyr Llwydion. Mae'n amlwg ei fod yn hyddysg yn y Beibl yn ogystal â bod yn fardd hyfforddedig.[1]

Cerddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerdd Ladin[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'n bosibl mai Madog yw awdur cerdd Ladin hir sy'n dathlu dawn filwrol y Brythoniaid (sef y Cymry) a'u buddugoliaethau dros y Saeson. Mae'r gerdd wladgarol hon i'w chael mewn llawysgrif (Caerdydd 2.611) sy'n dyddio o ddiwedd y 13g neu ddechrau'r 14g. Cofnodir yr awdur fel Frater Walensis madocus edeirnianensis ("y brawd o Gymro, Madog o Edeirnion").[1]

Cerddi Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cedwir dwy awdl ac un gadwyn englynion o waith Madog, ond gellir bod yn sicr ei fod wedi cyfansoddi llawer mwy. Mae'r awdl gyntaf yn adrodd geni'r Iesu ac yn adnabyddus weithiau dan enw'r llinell agoriadol 'Mab a'n rhodded' neu fel 'Geni Crist'. Ystyrir y gerdd hon y garol gyntaf i'w chyfansoddi yn Gymraeg.[2]

Dyma'r gerdd:

Mab a'n rhodded,
Mab mad aned dan ei freiniau,
Mab gogoned,
Mab i'n gwared, y mab gorau,
Mab fam forwyn
Grefydd addfwyn, aeddfed eiriau,
Heb gnawdol Dad
Hwn yw'r Mab rhad, rhoddiad rhadau...
Cawr mawr bychan,
Cryf, cadarn, gwan, gwynion ruddiau;
Cyfoethog, tlawd,
A'n Tad a'n Brawd, awdur brodiau.
Iesu yw hwn
A erbyniwn yn ben rhiau.
Uchel, isel,
Emanuel mêl meddyliau...
Pali ni fyn,
Nid urael gwyn ei gynhiniau.
Yn lle syndal
Ynghylch ei wâl gwelid carpiau...
Ei leferydd
Wrth fugelydd, gwylwyr ffaldau.
Engyl yd fydd,
A nos fal dydd dyfu'n olau.
Yna y traethwyd
Ac y coeliwyd coelfain chwedlau,
Geni Dofydd
Yng nghaer Ddafydd yn ddiamau...
Nos Nadolig,
Nos annhebyg i ddrygnosau,
Nos lawenydd
I lu bedydd, byddwn ninnau.
Bendigaid fyg
Yw'r Nadolig deilwng wleddau,
Pan aned Mab,
Arglwydd pob Pab, pob peth piau,
O Arglwyddes
A wna i'n lles, a'n lludd poenau,
Ac a'n gwna lle
Yn nhecaf bre yng ngobrwyau.

Mae'r ail yn gerdd ddramatig sy'n ymbil ar Dduw i achub enaid y bardd a'r drydedd yn ymwneud â Sant Fihangel a'i frwydr â'r cythraul.[1]

Cedwir testun dwy gerdd yn Llyfr Coch Hergest a'r cyfan yn llawysgrif NLW 4973B (yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru).[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Golygir gwaith y bardd yn:

  • Rhian M. Andrews (gol.), 'Gwaith Madog ap Gwallter', yn Gwaith Bleddyn Fardd a beirdd eraill ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg (Caerdydd, 1996). Cyfres Beirdd y Tywysogion.

Ceir testun cyfleus mewn orgraff ddiweddar o'r gerdd 'Geni Crist' yn,

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Rhian M. Andrews (gol.), 'Gwaith Madog ap Gwallter'.
  2. Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd Hydref 2015.



Beirdd y Tywysogion Y Ddraig Goch
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch