Božena Němcová
Božena Němcová | |
---|---|
Portread o Božena Němcová. | |
Ganwyd | 4 Chwefror 1820 Fienna |
Bu farw | 21 Ionawr 1862 Prag |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, golygydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol |
llofnod | |
Llenores ffuglen Tsiecaidd a chasglwr llên gwerin oedd Božena Němcová (ganed Barbora Panklová; 4 Chwefror 1820 – 21 Ionawr 1862) a flodeuai yn ystod yr adfywiad cenedlaethol yn llenyddiaeth Tsieceg.
Ganed Barbora Panklová yn Fienna, Ymerodraeth Awstria, i deulu o dras Tsiecaidd. Treuliodd ei phlentyndod yn y tiroedd Tsiec, a magwyd ynddi gariad dwfn o'r wlad a'i phobl. Priododd â swyddog yn y llywodraeth, a symudodd i Brag, gyda'i gŵr a'u plant, ym 1842. Daeth yn gyfarwydd â chylchoedd llenyddol y ddinas, gan gynnwys y bardd Václav Nebeský. Cyhoeddwyd ei cherdd gyntaf, "Ženám českým" ("I Ferched Tsiec"), yn y cyfnodolyn Květy ym 1843, ac mae'n debyg i Nebeský ei chynorthwyo gyda'r llinellau. Cyfansoddai Němcová naw cerdd arall cyn iddi benderfynu ym 1846 i roi'r gorau i farddoni a chanolbwyntio ar ryddiaith.[1]
Dechreuodd ysgrifennu Němcová chwedlau byrion, a fe'i hanogwyd i barhau gan yr arbenigwr llên gwerin Karel Jaromír Erben. Cyhoeddwyd cyfres o'i straeon gwerin mewn saith rhan rhwng 1845 a 1848, yn seiliedig ar y chwedlau a glywodd pan oedd yn ferch ifanc.[2] Symudodd Němcová a'i theulu i Domažlice yn ne-orllewin Bohemia ym 1845, ac yno cychwynnodd ar waith ethnograffig yng nghefn gwlad i gasglu rhagor o straeon.[3] Cyhoeddwyd ail argraffiad o'i chasgliad o straeon a chwedlau gwerin ym 1855–56, gyda straeon newydd ganddi.[4] Yn nechrau'r 1850au teithiodd i Slofacia, ac yno ymchwiliodd ymhellach i lên lafar y werin. Ffrwyth arall o'i theithiau oedd ei hatgof o grwydro Slofacia, a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn yr Amgueddfa Tsiec ym 1856. Němcová oedd yr awdur cyntaf o'i hoes i foli tirwedd Mynyddoedd Carpathia yn ei gwaith, elfen ddaearyddol a fyddai'n dal meddwl cenedlaetholwyr Rhamantaidd Tsiecaidd (a Tsiecoslofacaidd), ac hefyd y cyntaf i ysgrifennu yn Tsieceg am arwyr gwerin a banditiaid enwog Slofacia, gan gynnwys y lleidr pen ffordd Juraj Jánošík. Cyhoeddodd gasgliad o straeon a chwedlau gwerin y Slofaciaid, a chasglodd hefyd ganeuon a thraddodiadau priodas ac esiampl o ddrama'r Nadolig. Bu Němcová felly yn gymaint o arloeswraig yn astudiaethau llên gwerin yn Slofacia ag yn ei mamwlad, Tsiecia.[5]
Campwaith Němcová ydy'r nofel Babička ("Y Fam-gu"; 1855). Nodweddir ei ffuglen gan bortreadau byw o gefn gwlad y tiroedd Tsiec, cymeriadau lliwgar, a chysylltiad dwfn â diwylliant gwerin y Tsieciaid.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1820
- Marwolaethau 1862
- Beirdd y 19eg ganrif o Tsiecia
- Beirdd benywaidd o Tsiecia
- Beirdd Tsieceg o Tsiecia
- Llenorion benywaidd y 19eg ganrif o Tsiecia
- Llenorion straeon byrion y 19eg ganrif o Tsiecia
- Llenorion straeon byrion Tsieceg o Tsiecia
- Merched a aned yn y 1820au
- Nofelwyr y 19eg ganrif o Tsiecia
- Nofelwyr benywaidd o Tsiecia
- Nofelwyr Tsieceg o Tsiecia
- Pobl o Ymerodraeth Awstria
- Pobl a aned yn Fienna
- Pobl fu farw ym Mhrag