Brwydr Hastings

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brwydr Hastings
Rhan Concwest Normanaidd
Bayeux Tapestry WillelmDux.jpg
Brodwaith Bayeux
Dyddiad 14 Hydref 1066
Lleoliad Bryn Senlac, Battle, Dwyrain Sussex
Canlyniad Buddugoliaeth y Normaniaid
Cydryfelwyr
Normaniaid gyda
Llydawyr
Ffleminiaid
Ffrancod
Eingl-Sacsoniaid
Arweinwyr
Wiliam o Normandi
Alan Rufus
William FitzOsbern
Eustache II, Iarll Boulogne
Harold Godwinson
Gyrth Godwinson
Leofwine Godwinson
Nerth
rhwng c. 7,000 - 12,000 rhwng c. 5,000 - 13,000
Anafusion a cholledion
c.3,000 c.5,000

Ar 14 Hydref 1066, trechodd llu o Normaniaid dan arweiniad Gwilym, Dug Normandi y Saeson ym Mrwydr Hastings. Glaniodd Gwilym a'i wŷr yn Pevensey, ger Hastings, ar ôl hwylio drosodd o Normandi. Hawliai Gwilym goron Lloegr ac roedd yn benderfynol o'i chipio a rheoli teyrnas Lloegr. Wynebodd y Normaniaid a'r Saeson ei gilydd ar Fryn Senlac, ger Hastings, ac yno yr ymladdwyd un o'r brwydrau enwocaf erioed. Yn y brwydr, lladdwyd brenin Lloegr, Harold II, a daeth Dug Gwilym yn frenin Lloegr yn ei le fel Gwilym I o Loegr.

Dominyddwyd y frwydr gan dactegau'r Normaniaid. Defnyddiasant eu gwŷr saeth a'u marchogion i dorri trwy rhengoedd milwyr traed y fyddin Seisnig, a ddibynai bron yn llwyr ar y milwyr hynny yn absenoldeb saethwyr a heb lawer o farchogion. Bu colledion trwm ar y ddwy ochr. O'r diwedd saethwyd y brenin Harold yn ei lygad a'i ladd.

Ar ôl ennill y brwydr daeth Gwilym yn frenin Lloegr ac agorwyd cyfnod newydd yn hanes Prydain.

Coffheir Brwydr Hastings yn y frodwaith enwog Brodwaith Bayeux.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Baner LloegrEicon awrwydr   Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.