William FitzOsbern
Jump to navigation
Jump to search
Arglwydd Normanaidd a Iarll cyntaf Henffordd oedd William fitzOsbern (tua 1020 – 22 Chwefror 1071).Roedd yn arglwydd Breteuil, yn Normandi, ac yn berthynas a chynghorydd i'r brenin Gwilym Goncwerwr.
Wedi buddugoliaeth y Normaniaid ym Mrwydr Hastings yn 1066, crewyd fitzOsbern yn Iarll Henffordd cyn 22 Chwefror 1067. Ef oedd y cyntaf o'r aglwyddi Normanaidd i feddiannu rhan o Gymru, pan oresgynnodd Gwent cyn 1070. Adeiladodd nifer o gestyll, yn cynnwys rhai yng Nghas-gwent a Threfynwy.
Lladdwyd ef ym Mrwydr Cassel wrth geisio cymryd meddiant o Fflandrys. Daeth ei diriogaethau yn Normandi yn eiddo ei fab hynaf, William o Breteuil, a'i diriogaethau yng Nghymru a Lloegr yn eiddo ei ail fab, Roger de Breteuil.